:: wikimiki.org ::
| Almaeneg |
AlmaenegMae Almaeneg (Uchel Almaeneg ac Isel Almaeneg) yn perthyn i’r gangen germanig-orllewinol o’r ieithoedd Indo-ewropeaidd. Fe berthyn i'r un teulu ieithyddol germanig â Saesneg, Iseldireg a Norwyeg.
Mae Uchel Almaeneg yn un o ieithoedd pwysicaf y byd a llenyddiaeth helaeth yn perthyn iddi. Almaeneg sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr brodorol o holl ieithoedd Ewrop (tua 100 miliwn yn 2004 neu 13.3% y boblogaeth).
Hanes
Yn ystod yr Oesoedd Canol (neu yr Oesau Canol, y Canol Oesoedd) cynnar fe ddigwyddodd symudiad sain ('sound shift') mewn rhai tafodieithoedd germanig a elwir yn ail symudiad sain neu yn symudiad sain yr Uchel Almaeneg Gynnar. Gelwir y tafodieithoedd hyn, sef Alemannisch, Bairisch, Ostfränkisch, Rheinfränkisch, Mittelfränkisch, ac Ostmitteldeutsch, yn dafodieithoedd hochdeutsch, sef Uchel Almaeneg neu Almaeneg Safonol. Ar y llaw arall, fe gyfrifir bod y tafodieithoedd na ddigwyddodd yr ail symudiad sain iddynt (neu lle na ddigwyddodd ond i raddau cyfyngedig iawn) yn perthyn i deulu’r Isalmaeneg, o’r cyfnod modern cynnar ymlaen.
Yr adeg honno yr ymddangosodd y gair Teutsch (Deutsch mewn Almaeneg modern) yn y Lladin, wedi ei seilio ar y gair germanig am 'bobl' sef thioda, thiodisk. Golygai iaith y bobl nad oeddynt yn siarad Lladin na iaith Romáwns. Bu i’r gair hŷn Fränkisch am eu hiaith eu hunain araf ddiflannu tua’r 9fed ganrif yn sgil y newidiadau canlynol. Ar y naill law bu i’r bobl Westfränkisch a reolai diroedd y gorllewin (a fyddai yn ddiweddarach yn Ffrainc) fabwysiadu iaith Romáwns y brodorion. Ar y llaw arall roedd pobl y tiroedd dwyreiniol, yr Ostfrankenreich, yn cynnwys llwythau eraill heblaw am y Fränkisch, megis yr Alemmannen, y Bayern, y Thüringer, a’r Sachsen.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd cyfundrefnau politicaidd tiroedd y Teutschen (y llwythau Almaenig) yn ddrylliog, pob llwyth yn mynd ei ffordd ei hun, yn wahanol i’r gwledydd cyfagos, lle y canolwyd grym gwleidyddol ynghynt (ni ffurfiwyd yr ymerodraeth Almaenig hyd 1871). Gwahanwyd y bobloedd hefyd gan fynyddoedd uchel a fforestydd trwchus. Oherwydd hyn datblygodd tafodieithoedd Almaenig am gyfnod hir ar wahân i’w gilydd gan achosi gwahaniaethau sylweddol rhwng y tafodieithoedd. Honnir y gellir gweld y cam cyntaf tuag at gysoni’r tafodieithoedd rhanbarthol yn iaith farddol beirdd yr uchelwyr adeg yr Uwch Almaeneg Ganol, tua 1200. Yn wir fe welir yn eu cerddi eu bod i ryw raddau yn osgoi defnyddio geirfa nad oedd yn gyfarwydd ymhobman na defnyddio ynganiad arbennig i un ardal, a hynny er mwyn sicrhau y byddai’r cerddi yn ddealladwy ledled y llwythau Almeinig. Eto i gyd rhaid barnu mai bach iawn oedd dylanwad y beirdd hyn a weithient yn y llys, ar adeg pan nad oedd prin neb yn llythrennog nac â’r cyfle i ymwneud â diwylliant y llys. Gellir dirnad dechreuadau Uchel Almaeneg Gyfoes ysgrifenedig a safonol yn well yn y broses o gysoni iaith rhwng y rhanbarthau a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau’r Cyfnod Modern.
Yn wahanol i’r mwyfrif o wledydd Ewrop, lle mae’r iaith safonol yn seiliedig ar dafodiaith y brifddinas, mae Almaeneg safonol yn deillio o ryw fath o gyfaddawd rhwng y tafodieithoedd Canol ac Uwch Almaeneg sy’n perthyn i’r tiroedd i’r de o’r llinell Benrather. Rhed y llinell hon yn fras trwy drefi Düsseldorf, Kassel, Magdeburg, a Berlin.
Dros gyfnod, yn enwedig yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, fe ymdreiddiodd Uchel Almaeneg drwy ogledd yr Almaen hefyd, fel iaith ysgolion a materion swyddogol, ar draul y tafodieithoedd Isel Almaeneg (neu Isalmaeneg), sef Plattdeutsch, Niedersächsisch, a Niederfränkisch. Ond cyn hynny, yn ystod y cyfnod pan oedd y Cynghrair Hanseatig ar ei anterth (yn ystod y 14eg a’r 15fed ganrif) defnyddid Isel Almaeneg fel iaith gyffredin (neu lingua franca) o amgylch moroedd y Gogledd a’r Baltig. Mae Iseldireg hithau yn dafodiaith o’r Isel Almaeneg.
Cyfieithodd Martin Luther y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534 i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Oherwydd pwysigrwydd crefyddol Luther a’i Feibl fe ymdreiddiodd yr iaith a ddefnyddiodd, oedd a blas Ostmitteldeutsch (Canol Almaeneg Dwyreiniol) iddi, drwy genedlaethau lawer. O edrych yn ôl, fe welwn fod cyfraniad Luther i ddatblygiad iaith ysgrifenedig safonol wedi cael ei orbwysleisio am hir amser. Ers y 14eg ganrif bu eisoes ddatblygiad graddol a lledaeniad yn y defnydd o iaith ysgrifenedig wedi ei safoni rhwng y rhanbarthau, a elwid yn Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Cynnar). Roedd Beibl Luther felly yn adeiladu ar seiliau a osodwyd gan lenorion cynharach. Pan gyhoeddwyd y Beibl gyntaf cafodd rhestr o eiriau ei hatodi oedd yn trosi geiriau anghyfarwydd i eiriau’r dafodiaith leol, pob ardal a’i rhestr ei hun. Parhawyd i ddatblygu iaith safonol ac erbyn yr 17eg ganrif yr oedd datblygiad iaith ysgrifenedig safonol yn gyflawn.
Yn lle mabwysiadu teip rhufeinig tueddai’r Almaen i lynu wrth deip llythyren-ddu, yn arbennig yr amrywiadau Almaenig schwabacher a fraktur arni, ac erbyn y ddeunawfed ganrif daethpwyd i ystyried llythyren ddu, a ddefnyddiwyd gan Luther a Dürer, fel symbol o’r hunaniaeth Almaenig. Ar y dechrau fe gefnogodd y Natsïaid lythyren ddu yn hytrach na rhufeinig, a ddefnyddiwyd i gryn raddau hefyd (yn arbennig ar gyfer llyfrau â chylchrediad rhyngwladol megis gweithiau gwyddonol; rhufeinig a ddefnyddid ar deipiaduron), ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda golwg ar draarglwyddiaethu’r byd fe wnaethon nhw wahardd llythyren ddu gan ddisgrifio schwabacher yn gwbl gyfeiliornus fel teip Iddewig. Erbyn heddiw dim ond yn achlysurol i gyfleu naws hynafol, er enghraifft mewn hysbysebion, y defnyddir llythyren ddu, sy’n dal i fod â chynodiadau Natsïaidd.
Cafwyd ymgyrch aflwyddiannus ar ddechrau’r 20fed ganrif i beidio â pharhau i ddysgu plant ysgol i sgrifennu’r llaw gothig redegog kurrentschrift a oedd yn arbennig i’r Almaen ac i ddysgu dim ond y rhufeinig a oedd hefyd yn cael ei ddysgu ond fe ordeiniwyd hynny gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe rennir hanes Almaeneg yn aml yn bedair rhan:
- 750-1050: Althochdeutsch (Uchel Almaeneg Gynnar)
- 1050-1350: Mittelhochdeutsch (Uchel Almaeneg Ganol)
- 1350-1650: Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Gynnar)
- Ers 1650: Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes)
Cyhoeddodd Johann Christoph Adelung y geiriadur Almaeneg swmpus cyntaf ym 1781. Dechreuodd Jacob a Wilhelm Grimm y gwaith o gyhoeddi geiriadur cynhwysfawr ym 1852, gwaith nas cwblhawyd hyd 1961. Mae’r gwaith o ddiwygio’r geiriadur hwn yn mynd rhagddo.
Fe safonwyd fwyfwy ar orgraff yr Almaeneg yn ystod y 19ed ganrif. Cafwyd cam ymlaen tuag at safoni Almaeneg ysgrifenedig ym 1880 pan gyhoeddwyd Orthographischen Wörterbuch der deutschen Sprache (Geiriadur Almaeneg Orgraffyddol) gan Konrad Duden. Diwygiwyd rhyw ychydig ar hwn erbyn 1901, pan gyhoeddwyd canllawiau Almaeneg ysgrifenedig ar gyfer sefydliadau cyhoeddus. Dim ond ym 1996 y diwygiwyd orgraff yr Almaeneg unwaith eto.
Mae diwygiad sillafu 1996 yn bwnc llosg. Mae’r sillafiad diwygiedig wedi ei ddysgu mewn ysgolion ers 1996 ond heb ei dderbyn gan bawb eto, e.e. rhai papurau newydd. Mae’r newidiadau eisioes wedi eu derbyn a’u gweithredu yn ymarferol mewn llawer gwlad Almaeneg ei hiaith. Ers 1 Awst 2005 rhaid i bawb yn yr Almaen ddefnyddio’r sillafiad diwygiedig heblaw am ddwy ardal nad ydynt wedi derbyn y sillafiad diwygiedig.
Ehangodd y defnydd o Uchel Almaeneg gyda thwf yr Ymerodraeth Habsbwrg. Hi oedd iaith y canolfannau gweinyddol a masnachol ar draws y tiroedd Habsbwrg hyd at ganol y 19eg ganrif, e.e. ym Mhrâg a Bwdapest, ond nid pob tref Habsbwrg a siaradai Almaeneg, e.e. arhosodd Milan yn Eidaleg ei hiaith.
Defnydd Almaeneg fel iaith swyddogol
Yn yr Almaen mae Uchel Almaeneg yn:
- iaith y weinyddiaeth wladol yn unol â Deddf Gweithrediad Gweinyddiaeth (Verwaltungsverfahrensgesetz).
- iaith dogfennau notarïol yn unol â Deddf Ardystio (Beurkundungsgesetz).
- iaith y llys yn unol â Deddf Cyfansoddiad y Llysoedd (Gerichtverfassungsgesetz).
Mae rheolau arbennig ar gyfer y lleiafrifoedd sy’n siarad Daneg yn Schleswig-Holstein a’r Sorbeg yn Brandenburg a Sachsen, ac ar gyfer siaradwyr Niederdeutsch yn rhanbarthau gogleddol yr Almaen.
Yn Awstria Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae Croateg a Slofeneg hefyd yn ieithoedd swyddogol yn y rhanbarthau lle mae’r lleiafrifoedd hynny’n byw.
Almaeneg yw un o 20 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac un o ieithoedd gwaith y Cenhedloedd Unedig.
Gwledydd lle y siaredir Almaeneg
Yn brif iaith swyddogol
- Yr Almaen
- Awstria
- Liechtenstein (a’r unig iaith swyddogol)
Yn iaith swyddogol ymhlith ieithoedd eraill
- Rhanbarth Alsace yn Ffrainc
- ardal De Tirol yn yr Eidal (iaith frodorol i 2/3)
- Gwlad Belg
- rhanbarth Galicia yn yr Wcráin
- Lwcsembwrg
- Y Swistir (iaith frodorol i 2/3 o’r bobl)
- Namibia hyd y flwyddyn 1990
- Rwsia yn ardaloedd y lleiafrifoedd Almaeneg, yn Asowo (ardal Omsk) a Halbstadt (rhanbarth Altai)
- rhanbarth Schleswig yn Nenmarc
- rhanbarth Siebenburgen yn Romania
Ffugdybiad yw hi bod Almaeneg ymron â chael lle iaith swyddogol yn UDA.
Yn iaith leiafrifol
- Yr Ariannin (300,000)
- Awstralia (200,000 neu ragor o blith y 2,000,000 o dras Almaenig)
- Gwlad Belg (112,458) (150,000 – 1988 – Hawkins yn B. Comrie)
- Brasil (1,900,000)
- Canada (500,000 neu ragor o blith y 2,800,000 o dras Almaenig)
- Chile (100,000)
- Croatia (11,000)
- Denmarc (20,000)
- Yr Eidal (225,000 – 1987 – Vincent yn B. Comrie)
- Estonia (3,460)
- Ffrainc: o blith y 1,200,000 o drigolion Alsace a Lorraine dim ond canran fechan sydd yn dal i siarad y dafodiaith Almaeneg frodorol.
- Hwngari (145,000) (250,000 – 1988 – Hawkins yn B. Comrie)
- Yr Iseldiroedd (47,775)
- Kazakhstan (358,000)
- Latfia (3,780)
- Lithuania (2,060)
- Lwcsembwrg (10,900 – 2001 – Johnstone a Mandryk)
- Moldovia (7,300)
- Namibia (30,000)
- Paraguay (200,000)
- Gwlad Pwyl (50,000-120,000)
- Romania (70,000) (45,129 – cyfrifiad 2002)
- Rwsia : y rhan Ewropeaidd (75.000), Siberia (767,300)
- Slofacia (12,000) (15,000 – 1998)
- Togo
- Y Weriniaeth Tsiec (50,000 - 1998) yn yr Erzgebirge
- UDA, yn enwedig Pennsylvania (6,100,000)
- Wcráin (38,000)
Yn ail iaith
Mae llawer dros y byd yn dysgu Almaeneg fel ail iaith. Yn Ewrop Almaeneg sydd wedi lledaenu fwyaf ac eithrio’r Saesneg. Honna 38% o ddinasyddion Ewrop (heblaw am siaradwyr Almaeneg fel mamiaith) eu bod yn gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg. Ceir niferoedd sylweddol o ddysgwyr Almaeneg yn yr Iseldiroedd, Sgandinafia, o amgylch y môr Baltig, Slofenia, Croatia, Gwlad Pwyl, Japan, Bosna-Hercegovina, ardaloedd rwmanaidd y Swistir, Serbia, Hwngari, Montenegro, Macedonia a Bwlgaria. Yn rhai o’r gwledydd hyn Almaeneg yw’r iaith dramor gyntaf a ddysgir yn yr ysgolion, o flaen Saesneg. Yn Belarus hefyd dysgir Almaeneg yn aml mewn ysgolion. Mewn rhannau o ddwyrain Ewrop hybir dysgu Almaeneg gan ei bod yn bosibl derbyn telediad Almaeneg trwy gebl neu oddi ar loeren. Mewn gwledydd eraill, e.e. Ffrainc ac UDA, mae Almaeneg yn colli tir i’r Sbaeneg.
Yn ôl ymholiad y Ständigen Arbeitsgruppe Deutsch als Fremdsprache (Pwyllgor Gwaith Almaeneg fel Ail Iaith) sydd yn perthyn i Swyddfa Dramor yr Almaen a Sefydliad Goethe, ymhlith cyrff eraill, roedd y niferoedd mwyaf o ddysgwyr Almaeneg yn 2000 i’w cael yn y gwledydd canlynol:
- Ffrainc : 1,603,813
- Hwngari : 629,472
- Yr Iseldiroedd : 591,190
- Kazakhstan : 629,874
- Gwlad Pwyl : 2,202,708
- Y Ffederasiwn Rwsiaidd : 4,657,500
- Y Weriniaeth Tsiec : 799,071
- UDA : 551,274
- Yr Wcráin : 629,742
Erbyn heddiw Almaeneg yw’r iaith a ddefnyddir amlaf ar y rhyngrwyd ac eithrio’r Saesneg. Mae rhagor nag 8% o dudalennau’r rhyngrwyd yn Almaeneg.
Fel creoliaith
Yn sgil gwladychu y datblygodd yr iaith ‘Unserdeutsch’ yn yr ynysoedd a elwir heddiw yn Brydain Newydd Dwyreiniol. Erbyn hyn mae’r iaith hon ymron â diflannu gan fod mwyafrif y siaradwyr wedi mudo oddi yno. Heblaw hyn mae rhyw 150 o eiriau Almaeneg eu tarddiad i’w cael yn iaith Tok Pisin Papwa Gini Newydd.
Geiriau
| Rhowch imi | | Geben Sie mir |
| gwrw | ein Bier |
| os gwelwch yn dda | bitte |
| ac | und |
| yn gyflym! | schnell! |
Yr Wyddor Almaeneg
Mae'r Wyddor Almaeneg yn cynnwys 26 llythyren.
Aa, Bb, Cc, Dd, Ee, Ff, Gf, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Oo, Pp, Qq, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Xx, Yy, Zz
Yn ogystal â’r 26 llythyren yn yr wyddor Lladin mae Almaeneg yn defnyddio ß (eszett) a llythrennau ag ‘umlaut’ arnynt Ää, Öö, Üü.
Iaith lafar a thafodieithoedd Almaeneg
Nid oes ynganiad Almaeneg safonol cyffelyb i ynganiad Saesneg y BBC. Yn ystod y 19eg ganrif bu ehangu mawr ar addysg a hynny trwy gyfrwng Uchel Almaeneg. Wrth geisio ynganu geiriau Uchel Almaeneg fe ffurfiwyd iaith lafar tra gwahanol yn y gwahanol ranbarthau, yn gymysgedd o Uchel Almaeneg a thafodiaith wreiddiol yr ardal.
Ers canol yr 20fed ganrif mae’r gwahanol ieithoedd llafar hyn wedi ymdreiddio i’r tafodieithoedd traddodiadol. Fe fydd siaradwyr yn addasu eu hiaith i fod yn fwy neu yn llai tafodieithol yn ôl y galw. Ar y teledu a’r radio fe glywch y cyflwynwyr gan amlaf yn siarad Uchel Almaeneg ond gydag acen ranbarthol. Ond nid acen yw’r unig wahaniaeth rhwng yr ieithoedd llafar gan fod geirfa a chystrawen hefyd yn gwahaniaethu o un ardal i’r llall, yn enwedig rhwng gwlad a gwlad trwy fod pob gwlad a’i diwylliant a’i gweinyddiaeth ei hun yn bathu termau newydd gwahanol i’w gilydd. Erbyn hyn ceir rhai dinasoedd yn yr Almaen ac Awstria lle mae’r dafodiaith draddodiadol wedi diflannu’n gyfan gwbl. Fe erys digon o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd a siaredir heddiw trwy’r tiroedd Almaenig fel bod angen is-deitlau Uchel Almaeneg ar rai ffilmiau tafodieithol o’r gwahanol ranbarthau. Mater o raid yw defnyddio Uchel Almaeneg pan fydd rhywrai sy’n hanu o ranbarthau pellenig am gael sgwrs. Mae Almaeneg y Swistir yn annodd iawn i’w deall gan Almaenwyr ac felly hefyd y tafodieithoedd Isel Almaeneg.
Fe fu ymdrechion i ffurfio iaith lafar safonol yn seiliedig ar Uchel Almaeneg tua diwedd y 19eg ganrif i’w defnyddio yn y theatr yn bennaf. Cyhoeddwyd canllawiau ‘Ynganiad Almaeneg ar gyfer y llwyfan’ ym 1898. Yr oedd ynganiad y geiriau yn gyfaddawd rhwng ynganiad y gwahanol ranbarthau ond yn ymdebygu fwyaf i ynganiad Gogledd yr Almaen. Gan fod pobl gogledd yr Almaen yn siarad tafodieithoedd Isel Almaeneg a oedd mor wahanol i Uchel Almaeneg, pan aethant ati i ddysgu Uchel Almaeneg yna ei dysgu ymron fel ail iaith yr oeddent. Dyfeisiasant ynganiad yn ôl y llythrennau ysgrifenedig yn hytrach na dilyn patrwm eu tafodiaith eu hunain.
Bu beirniadu ar ‘iaith y llwyfan’ fod ei sain yn annaturiol, ac aflwyddiannus fu’r ymdrech i ehangu’r defnydd o’r iaith hon tu allan i’r theatr. Ond pan aethpwyd ati i ysgrifennu canllawiau ynganu ar gyfer dysgwyr dilynwyd yr un trywydd â ‘iaith y llwyfan’ trwy gyfaddawdu rhwng y gwahanol ranbarthau ond gyda dylanwad cryf o iaith y Gogledd. Gelwir hon yn Ynganiad Safonol er nad yw’n perthyn yn union gywir i neb o blith Almaenwyr.
Fe rennir y tafodieithoedd traddodiadol yn dair prif ran, sef Uwch Almaeneg (tua’r de), Almaeneg Canol (y deilliodd Uchel Almaeneg yn bennaf ohono) ac Isel Almaeneg (tua’r gogledd). Fesul cam y gwelir newidiadau wrth symud o un ardal i ardal gyfagos, gan gynnwys yr ymdoddiad ieithyddol o diroedd Almaeneg Canol i diroedd Isel Almaeneg. Y mae’n bwnc llosg a ddylid ystyried Isel Almaeneg, sy’n cynnwys Iseldireg a Fflemeg, yn iaith ar wahan i Uchel Almaeneg. Mae rhanbarthau Hambwrg, Schleswig-Holstein, Niedersachsen, Mecklenburg-Vorpommern a Bremen wedi cael cydnabyddiaeth gan Gyngor Ewrop fod yr iaith ‘Niederdeutsch’ (sef y tafodieithoedd Nieder Sächsisch) yn iaith rhanbarthol swyddogol. Fodd bynnag, y mae’n bosib mai marw fydd tynged y Niederdeutsch, serch yr ymdrechion politicaidd i’w harbed.
Yn hanesyddol mae pobl ardaloedd tafodieithol cyfagos yr Isel Almaeneg, o ogledd yr Almaen draw at wlad Belg a’r Iseldiroedd yn deall ei gilydd. Yn ôl y diffiniad ieithyddiaeth felly maent yn perthyn i’r un teulu iaith. Ond mae’r tafodieithoedd yn yr Iseldiroedd a’r Almaen yn tyfu fwyfwy ar wahan trwy fod ffin boliticaidd rhyngddynt. Hefyd mae llawer o’r tafodieithoedd Isel Almaeneg yn colli tir i Iseldireg neu Almaeneg safonol, a rhai ohonynt bron â marw. Trwy’r broses hon gellir gweld ffin ieithyddol yn ymddangos rhwng Iseldireg ac Almaeneg.
Dylanwadau ieithoedd tramor ar Almaeneg
Gan fod siaradwyr Almaeneg yn byw yng Nghanolbarth Ewrop y mae Almaeneg wedi dylanwadu arni drwy’r canrifoedd gan ieithoedd eraill. Yn ystod yr Oesoedd Canol ac ynghynt cafwyd benthyg geiriau o’r Lladin yn bennaf. Benthycwyd geiriau o’r Lladin yn ymwneud â phensaernïaeth, crefydd, a rhyfela, ymhlith pynciau eraill, e.e. Fenster (ffenestr), Keller (seler), Karren (cert), dominieren (goruchafu), Kloster (mynachlog). Cafwyd benthyg hefyd o’r Groeg ym meysydd crefydd, gwyddoniaeth, ac athroniaeth, e.e. Philiosphie (athroniaeth), Physik (Ffiseg), Demokratie (democratiaeth).
Yn ddiweddarach Ffrangeg oedd yr iaith fwyaf dylanwadol ar Almaeneg. Ffrangeg a siaredid mewn llawer i lys wedi’r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a ddaeth i ben ym 1648. Mae’n debyg bod gafael gwell gan Dywysogion Prwsia ar Ffrangeg nag ar Almaeneg. Gan hynny codwyd geirfa helaeth yn ymwneud â byd y boneddigion o’r Ffrangeg, e.e. Boulevard (rhodfa), Trottoir (palmant), Konfitüre (jam).
Benthycwyd i raddau llai o’r ieithoedd Slafaidd, e.e. Grenze (ffin), Pistole (llawddryll), o’r Iddew-Almaeneg a Rotwelsch, e.e. meschugge (yn wirion bost).
Gwelir dylanwad Arabeg ym meysydd masnach, botaneg, a meddygaeth, dylanwad oedd ar ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys adeg y croesgadau, e.e. Koffer (cist), Benzin (petrol), Limonade (lemonêd).
Ers canol yr 20fed ganrif mae Saesneg wedi dylanwadu fwyfwy ar Almaeneg. Mae’r datblygiad hwn yn ddadleuol. Achwynir bod llawer o’r geiriau benthyg ffug-Saesneg, e.e. Handy (ffôn symudol) yn disodli geiriau cyfystyr Almaeneg sy’n bodoli eisioes neu y gellid fod wedi bathu geiriau â gwreiddiau Almaeneg. Erbyn hyn mae ffilmiau wedi eu trosleisio’n wael o’r Saesneg hefyd yn dylanwadu ar Almaeneg. Er mwyn cadw cydwefusiad ar ffilmiau Saesneg (ac oherwydd anwybodusrwydd) fe greir geiriau ac ymadroddion nad ydynt yn gyfarwydd yn Almaeneg ond sydd ar fyr dro yn ymgartrefu yn yr iaith lafar, e.e. Oh mein Gott am ‘Oh my God’ Saesneg, yn hytrach na’r ymadrodd draddodiadol Um Gottes Willen. Fe elwir yr iaith sydd yn gymysgedd o Almaeneg a Saesneg yn Denglish.
Mewn llawer gwlad, e.e. Ffrainc a Gwlad yr Iâ, ceir ymdrechion politicaidd i arbed yr iaith frodorol rhag ymdreiddiad o’r Saesneg. Nid felly y mae yn yr Almaen am fod cymaint o ofn unrhyw bolisïau sy’n ymdebygu i bolisïau’r Natsïaid arnynt. Mae eraill yn collfarnu ymdrechion o’r fath gan eu cyfrif yn buryddiaeth ieithyddol afiach.
Dylanwad Almaeneg ar ieithoedd eraill
Mae llawer o eiriau wedi eu benthyg o’r Almaeneg i ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg. Tardda trwch y geiriau benthyg o ddyfeisiadau Almaenig, o adeg y rhyfeloedd byd, neu o’r ymfudwyr i UDA a siaradent Almaeneg neu Iddew-Almaeneg. Enghreifftiau o’r geiriau benthyg yma yw:
- Abseilen
- Angst
- Blitzkrieg
- Eisberg (rhewfryn)
- Doppelgänger (rhywun o’r un ffunud ac un arall)
- Glockenspiel
- Glitz
- jodeln (iodlo)
- kaputt (wedi torri)
- Kindergarten
- Kitsch
- Müsli
- Rucksack
- Schadenfreude (ymhyfrydu yn nhrafferthion rhywrai arall)
- Vorsprung durch Technik (cam ymlaen trwy dechnoleg)
- Waltz
- Wunderkind (plentyn rhyfeddol)
- Zigzag (igam ogam)
- Zeppelin
Diwylliant Almaeneg
Llenyddiaeth Almaeneg
Mae’r Almaeneg ysgrifenedig gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 8fed ganrif, ar ffurf llawysgrifau eglwysig a nodiadau ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin. Yng nghanol y 12fed ganrif fe ledodd cwmpas llenyddiaith Almaeneg tu allan i’r byd eglwysig. Aethpwyd ati i ysgrifennu llawer o ganeuon a chwedlau o dan nawdd yr uchelwyr. Gwelir dylanwad Ffrengig ar lenyddiaeth yr Almaen yn dechrau’r adeg hon, dylanwad a fyddai’n parhau am ganrifoedd. Enghreifftiau o’r canu hwn yw Rolandslied (cân Roland), Tristan und Isold (Tristan ac Esyllt), Parzival (Parsifal), Niebelungenlied.
Fel ag yn Gymraeg bu cyhoeddi’r Beibl yn Almaeneg, ym 1522 a 1534, yn garreg filltir bwysig yn natblygiad yr iaith safonol yn ogystal ag yn natblygiad yr Eglwys Gristnogol.
Mae llenyddiaeth helaeth wedi ei chyhoeddi yn Almaeneg ar hyd yr oesoedd. Ymhlith y mwyaf enwog y mae:
- Dramau a cherddi Friedrich Schiller 1759 – 1805
- Gweithiau Goethe gan gynnwys y ddrama drasiedi Faust ym 1808 a 1832.
- Rhyddiaith Franz Kafka 1883 – 1924
- Dramau Bertolt Brecht 1898 – 1956
- Nofel Die Blechtrommel (Y drwm tun) gan Günter Grass (ganwyd 1927).
Bu’r Holocawst yn ysgogiad i lenyddiaeth a ffilmiau. Gellir enwi gwaith y beirdd Iddewig Paul Celan, yn arbennig ei gerdd enwog Todesfuge, a Nelly Sachs yn y cyswllt hwn. Datblygiad diweddar yw trafod dyddiau olaf y Trydydd Reich o safbwynt Hitler a’i staff yn y ffilm Der Untergang, ac yn y gyfres deledu Heimat dylunnir bywyd bob-dydd yn ystod yr 20fed ganrif wrth i’r Almaenwyr geisio dod i delerau â’u hanes.
Almaeneg mewn miwsig
Ar draws Ewrop, yn sgil y Diwygiad Protestanaidd, dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan ddefnyddio testunau yn yr iaith leol yn hytrach na Lladin, e.e. gweithiau J.S. Bach ar ddechrau’r 18fed ganrif. Yn ddiweddarach dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ar bynciau seciwlar. Pan gyfansoddodd Mozart Die Zauberflöte (y Ffliwt Hud) ym 1791, Eidaleg oedd cyfrwng arferol operâu. Bwriad Mozart wrth ddefnyddio testun Almaeneg oedd apelio at werin Fienna yn ogystal â’r byddigion, gan fod yr opera yn ymdrin ag Urdd y Seiri Rhyddion, yr oedd Mozart yn aelod ohoni. Yn ystod y 19eg ganrif defnyddiwyd y chwedlau Almaeneg o’r Oesoedd Canol mewn operâu, gan gynnwys operâu Wagner. Bu cyfansoddwyr Almaeneg yn arloeswyr canu clasurol y 19eg ganrif a elwir heddiw yn ganu ‘Lieder’ (sef 'caneuon' yn Almaeneg). Yn eu plith roedd Franz Schubert, Robert Schumann, a Johannes Brahms.
Dysg Almaeneg
Tyfodd bri a dylanwad prifysgolion y gwledydd Almaeneg eu hiaith yn gyflym yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn y 1870au roedd Almaeneg wedi disodli Lladin fel prif iaith addysg prifysgolion Ewrop. Câi Almaeneg ei defnyddio mewn meddygaeth yn nwyrain Asia yn hytrach na Lladin. Ym meysydd ieithyddiaeth, athroniaeth, hanes, a gwyddoniaeth, ymhlith eraill, yr oedd siaradwyr Almaeneg a phrifysgolion Almaenig ar flaen y gad academaidd. O’r herwydd ymddangosodd nifer fawr o weithiau pwysig y byd yn Almaeneg gan gynnwys:
- Das Kapital (Cyfalaf) gan Karl Marx (1867)
- Die Traumdeutung (Dehongli breuddwydion) gan S. Freud (1899)
- Drei Abhandlungen zur Sexualtheorie (3 Thraethawd ar elfennau rhywioldeb) gan S. Freud (1904-05)
- Das Unbehagen in der Kultur (Anniddigrwydd mewn gwareiddiad) gan S. Freud (1929)
- Zur Elektrodynamik bewegter Körper (Ar electrodeinameg cyrff symudol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik cyf. 17, 1905
- Ist die Trägheit eines Körpers von seinem Energieinhalt abhängig? (Ydy inertia corff yn dibynnu ar yr ynni sydd ynddo?) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf. 18, 1905)
- Die Grundlage der allgemeine Relativitätstheorie (Sylfaen y theori perthynoledd cyffredinol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf 49, 1916)
- Über die spezielle und allgemeinen Relativitätstheorie (Ynglŷn â theori perthynoledd arbennig a chyffredinol) gan A. Einstein (1916).
Ffilm Almaeneg
Ymddangosodd y ffilm hir sain Almaeneg gyntaf ym 1929, sef Melodie der Welt (Cân y byd). Ymddangosodd ffilmiau sain Almaeneg byd-enwog yn ystod y cyfnod sain cynnar, gan gynnwys ffilm gyntaf Marlene Dietrich Der Blaue Engel (Yr angel glas – 1930), Berlin Alexanderplatz (1931), ac M (1931). Pan ddaeth y Natsïaid i rym, buan y collwyd gwneuthurwyr ffilm mwyaf dawnus yr Almaen. Cynhyrchwyd nifer fawr o ffilmiau Almaeneg yn ystod cyfnod y Natsïaid, gan fod y sinema yn hynod boblogaidd yn yr Almaen, serch neu yn hytrach oherwydd tlodi enbyd y bobl, ond prin yw’r ffilmiau y bernir eu bod yn bwysig erbyn heddiw. Wedi’r Ail Ryfel Byd cafwyd rhywfaint o adfywiad mewn ffilmiau Almaeneg eu hiaith, ond nid tan y 60au y cafodd sinema Almaeneg sylw rhyngwladol eto. Yn ystod y 70au y gwelwyd ffilmiau y Neues Deutsches Kino (y Sinema Almaenig Newydd) yn cael sylw a chlod beirniadol, yn eu plith Aguirre, der Zorn Gotte (Aguirre, digofaint Duw - 1972), Angst essen Seele auf (Ofn a lynca’r enaid – 1974) a Die Ehe der Maria Braun (Priodas Maria Braun – 1979). Yn ddiweddar iawn mae nifer o ffilmiau wedi ymddangos yn trin cyfnod y Natsïaid gan gynnwys Das Schreckliches Mädchen (Y ferch ddychrynllyd - 1989), Der Untergang (Y dymchwel - 2004), a Sophie Scholl – die Letzten Tage (Sophie Scholl – y dyddiau olaf - 2005).
Yr enw Almaeneg mewn ieithoedd eraill
Oherwydd bod hanes y pobloedd sy’n siarad Almaeneg wedi bod mor gythryblus mae llawer rhagor o wahanol ffurfiau ar y gair ‘Almaeneg’ mewn ieithoedd tramor nag sydd i’r mwyafrif o ieithoedd y byd.
Yn gyffredinol gellir dosbarthu’r gwahanol dermau am Almaeneg yn ôl eu tarddiad i chwech grŵp sef:
#O’r term protogermanaidd Volk (pobl)
#O enw llwyth y Germaniaid
#O enw llwyth y Sacsoniaid
#O’r gair Slafaidd am ‘fud’
#O enw llwyth yr Alemaniaid
#Yn ieithoedd y Baltig
Cyfeirnodion
Ffynonellau
- http://de.wikipedia.org/wiki/Deutsche_Sprache
- http://en.wikipedia.org/wiki/German_language
Ysgriflythrennau a llawysgrifen
- Black letter: type and national identity, goln Peter Bain a Paul Shaw (New York, 1998)
- S. H. Steinberg, Five hundred years of printing, (Harmondsworth, 1966, 1996)
- D. B. Updike, Printing types: their history, form and use (Oxford University Press, 1952)
Ystadegau siaradwyr
- http://de.wikipedia.org/wiki/Deutsche_Sprache
- http://www.ethnologue.com/show_language.asp?code=deu
Ar bapur
- Geiriadur Almaeneg-Cymraeg a Chymraeg-Almaeneg (Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1999).
Ar y we
- http://www.woerterbuch.info/ geiriadur Almaeneg-Saesneg ar y we.
- http://www.uni-wuerzburg.de/germanistik/spr/suf/baydat-udi/pdf/Grob%FCbersicht%20Dialekte.pdf (map o’r tafodieithoedd Almaeneg, yn Almaeneg)
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Almaenaidd
als:Deutsche Sprache
ja:ドイツ語
ko:독일어
ms:Bahasa Jerman
simple:German language
th:ภาษาเยอรมัน
Ieithoedd Indo-EwropeaiddTeulu ieithyddol yw'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Maen nhw'n cynnwys y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop a llawer o ieithoedd De a De-orllewin Asia. Maen nhw'n tarddu o un iaith hynafiadol (Proto-Indo-Ewropeg).
Dosbarthiad
(Mae ieithoedd gyda seren ( - ) wedi darfod).
- Albaneg
- Ieithoedd Almaenaidd: e.e. Saesneg, Sgoteg, Almaeneg, Iseldireg, Affricaneg, Swedeg, Norwyeg, Daneg, Islandeg
- Ieithoedd Anatolaidd - : e.e. Hetheg -
- Armeneg
- Ieithoedd Baltaidd: Latfieg, Lithwaneg
- Ieithoedd Celtaidd: Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg
- Ieithoedd Eidalaidd neu Italaidd: Lladin - , Osgeg - , Wmbreg -
- Ieithoedd Romáwns (Rhufeinaidd): e.e. Ffrangeg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Eidaleg, Rwmaneg, Catalaneg, Galiseg, Ocsitaneg
- Groeg
- Ieithoedd Indo-Iranaidd:
- Ieithoedd Indo-Ariaidd: e.e. Sansgrit - , Hindi, Wrdw, Bengaleg, Pwnjabeg, Cashmireg, Gwjarati, Nepaleg, Sinhaleg
- Ieithoedd Iranaidd: e.e. Ffarsi, Cwrdeg, Pashto
- Ieithoedd Slafaidd: e.e. Rwsieg, Belarwsieg, Wcreineg, Pwyleg, Tsieceg, Slofaceg, Slofeneg, Serbeg, Croateg, Macedoneg, Bwlgareg
- Ieithoedd Tocharaidd - : Tochareg A - , Tochareg B -
Category:Ieithoedd
ja:インド・ヨーロッパ語族
ko:인도유럽어족
th:ภาษากลุ่มอินโด-ยูโรเปียน
SaesnegSaesneg (Saesneg: English) yw iaith Lloegr, un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg), ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.
Ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg.
Ymadroddion
- Saesneg: English
- Helo: hello
- Bore da: good morning
- Da bo chi: goodbye
- Os Gwelwch yn dda: please
- Diolch: thank you
- Cymraeg: Welsh
- ie: yes
- na: no
Rhagor o eiriau i'u dweud
| Rhowch imi | | Give me |
| cwrw | beer |
| os gwelwch yn dda | please |
| ac | and |
| yn gyflym! | quickly! |
Rho imi cwrw, 'nghyfaill (fersiwn anffurfiol Seland Newydd): Gizza beer mate.
Gweler hefyd
Simple English
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Almaenaidd
als:Englische Sprache
ja:英語
ko:영어
ms:Bahasa Inggeris
simple:English language
th:ภาษาอังกฤษ
zh-min-nan:Eng-gí
LladinLladin yw hen iaith Rhufain. Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd cryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddiwyd Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.
Brawddegau
- Veni, vidi, vici: Fe ddes i, fe welais i, fe goncrais i.
- Da mihi cerevisiam celeriter: Rhowch imi gwrw yn gyflym.
Rhestr awduron Lladin
Category:Ieithoedd
als:Latein
ja:ラテン語
simple:Latin language
th:ภาษาละติน
Martin LutherDiwynydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther 10 Tachwedd 1483 - 18 Chwefror 1546.
Y Beibl
Casgliad o lyfrau sanctaidd yn yr ieithoedd Groeg a Hebraeg yw'r Beibl. Yn y traddodiad Cristnogol, gelwir y llyfrau Hebraeg yn Hen Destament a'r llyfrau Groeg yn Destament Newydd.
Cysylltiad Allanol
[http://www.beibl.net/ Gwefan y Beibl]
Beibl
ko:성서
zh-min-nan:Sèng-keng
ja:聖書
nb:Bibelen
simple:Bible
AwstriaGweriniaeth yng nghanoldir Ewrop yw Awstria. Mae'n ffinio â Liechtenstein a'r Swistir i'r gorllewin, Yr Eidal a Slofenia i'r de, Hwngari a Slofacia i'r dwyrain a'r Almaen a Gweriniaeth Tsiec i'r gogledd.
als:Österreich
ja:オーストリア
ko:오스트리아
ms:Austria
simple:Austria
th:ประเทศออสเตรีย
zh-min-nan:Tang-kok
Cenhedloedd UnedigSefydliad rhyngwladol gyda 191 o aelodau gwladwriaethol (2004) yw'r Cenhedloedd Unedig (CU neu UN yn Saesneg). Mae bron pob gwlad yn aelod o'r sefydliad a sefydlwyd ar 24 Hydref, 1945 yn San Francisco, ar ôl Cynhadledd Dumbarton Oaks yn Washington, DC. Cynhalwyd ei Gynulliad Cyffredinol cyntaf ar 10 Ionawr, 1946 yn Church House, Llundain.
Gall unrhyw wlad sy'n parchu heddwch yn ogystal â bod yn barod i dderbyn oblygiadau Siarter y CU ac sydd â'r gallu a'r parodrwydd i gyflenwi'r oblygiadau hynny ym marn y cynhedloedd Unedig fod yn aelod.
Ysgryfennydd Cyffredinol y CU yw Kofi Annan.
Gweler hefyd
- Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF)
- Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO)
- Sefydliad Iechyd y Byd (SIB/WHO)
ja:国際連合
ko:국제 연합
ms:Pertubuhan Bangsa-Bangsa Bersatu
simple:United Nations
zh-min-nan:Liân-ha̍p-kok
Yr AlmaenYr Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Luxembourg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.
Ni chafwyd chwyldro Almaenaidd ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenaidd i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen i mewn i’r ugeinfed ganrif.
Daearyddiaeth yr Almaen
Ac eithrio yr afon Donaw (Danube) yn y De mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys yr Elbe, y Weser a'r Ems, sy'n llifo tua'r gogledd.
Deutsche Mark
Gwledydd y byd | Ewrop | Cyngor Ewrop
als:Deutschland
ja:ドイツ
ko:독일
ms:Jerman
roa-rup:Ghirmânii
simple:Germany
th:สหพันธ์สาธารณรัฐเยอรมนี
zh-min-nan:Tek-kok
LiechtensteinGwlad fychan yn Ewrop rhwng y Swistir ac Awstria yw Liechtenstein.
Category:Ewrop
als:Liechtenstein
ja:リヒテンシュタイン
ko:리히텐슈타인
ms:Liechtenstein
simple:Liechtenstein
zh-min-nan:Liechtenstein
Yr EidalGwlad yn ne Ewrop yw'r Eidal. Mae e'n gorynys mawr siâp esgyd a nifer o ynysoedd ym Môr Canoldir. Yn y gogledd mae'r mynyddoedd (yr Alpau) a'r wledydd Ffrainc, y Swistir, Awstria a Slofenia. Mewn tirwedd yr Eidal mae dwy wledydd bychain: San Marino a Dinas y Fatican.
Israniadau
Prif erthygl: Israniadau Yr Eidal
- Abruzzo
- Basilicata
- Calabria
- Campania
- Emilia-Romagna
- Friuli-Venezia Giulia
- Lazio
- Liguria
- Lombardia
- Marche
- Molise
- Piemonte
- Puglia
- Sardegna
- Sicilia
- Toscana
- Trentino-Alto Adige
- Umbria
- Valle d'Aosta
- Veneto
Daearyddiaeth
Prif Erthygl: Daearyddiaeth Yr Eidal
Eidal, Yr chan a 'n fawr gorynys ag lesewch llunia a i mewn i 'r Môr Canoldir, Y , ar y cyd ag 'i 'n ddau main hynysoedd Sicilia a Sardegna.
Diwylliant
Prif Erthygl: Diwylliant Yr Eidal
Ewrop s Dadeni atalnod began i mewn Eidal, Yr yn ystod 'r 14au a 15au canrifau. 'n llengar campau , 'n gyfryw fel 'r awenyddiaeth chan Dante Petrarch Tasso , a Ariosto a 'r rhyddiaith chan Boccaccio Machiavelli , a Castiglione gweithrededig a tremendous a yn dal ddylanwada acha 'r subsequent datblygiad chan Gorllewinwr gwrteithia , fel did 'r yn arlliwio , cerfluniaeth , a adeiladaeth cyfranedig at cewri 'n gfryw fel Filippo Brunelleschi, Leonardo da Vinci, Raffaello Botticelli, Fra Angelico , a Michelangelo. 'n dar arlunwyr chynhwysa 'r cerflunydd Tommaso Geraci.
Cysylltiad allanol
- [http://www.quirinale.it/ Presidenza della Repubblica] (yn Eidaleg)
- [http://www.parlamento.it/ Parlamento] (Senato yn Eidaleg)
Category:Yr Eidal
als:Italien
fiu-vro:Itaalia
ja:イタリア
ko:이탈리아
ms:Itali
simple:Italy
th:ประเทศอิตาลี
zh-min-nan:Italia
Gwlad Belg
Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Gwlad Belg (België yn yr Iseldireg, Belgique yn y Ffrangeg a Belgien yn yr Almaeneg). Mae rhwng yr Iseldiroedd, yr Almaen, Luxembourg, Ffrainc a Môr y Gogledd. Mae yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Almaenig a'r diwylliant Ffrengig ac felly mae diwylliant y wlad yn rhannu yn ddau gwahanol iawn. O ganlyniad, mae sefydliadau a hanes y wlad braidd yn gymhleth.
Gwelwch: Rhestr gwladwyr Belg enwog
ja:ベルギー
ko:벨기에
ms:Belgium
simple:Belgium
th:ประเทศเบลเยียม
zh-min-nan:Belgien
WcráinGwlad yn nwyrain Ewrop yw Wcráin (hefyd: yr Wcráin, Ukrain). Mae ar lan y Môr Du a gwledydd cyfagos yw'r Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Romania a Moldofa. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.
als:Ukraine
ja:ウクライナ
ko:우크라이나
ms:Ukraine
simple:Ukraine
th:ประเทศยูเครน
zh-min-nan:Ukrayina
LwcsembwrgArchddugiaeth yw Lwcsembwrg (Ffrangeg: Luxembourg) yng ngorllewin Ewrop, rhwng Ffrainc, Gwlad Belg a'r Almaen. Lwcsembwrg yw enw prif ddinas y wlad, hefyd. Mae'r bobl yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Lwcsembwrgeg, ond mae tua hanner y bobl sy'n byw yn y wlad yn dod o wledydd eraill, yn enwedig Portiwgal.
ja:ルクセンブルク
ko:룩셈부르크
ms:Luxembourg
nb:Luxembourg
simple:Luxembourg
Y Swistir
Mae Y Swistir (enw Lladin swyddogol: Confoederatio Helvetica) yn wladwriaeth ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfordir. Mae'n ffinio â'r Almaen, Ffrainc, Yr Eidal, Awstria a Liechtenstein. Zurich ydy'r brifddinas.
Mae gan y wlad draddodiad cryf o wleidyddiaeth a militariaeth niwtral, ond hefyd o gydweithio rhyngwladol, gan ei bod yn gartref i nifer o fudiadau rhyngwladol megis Y Groes Goch.
Mae'r enw Lladin ar y wlad Confoederatio Helvetica yn osgoi gorfod dewis un o bedair iaith swyddogol y wlad, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romansch.
Cysylltiadau Allanol
[http://www.winterreisen.de/ski_ch.htm Swistir]
Category:Ewrop
als:Schweiz
ja:スイス
ko:스위스
ms:Switzerland
simple:Switzerland
th:ประเทศสวิตเซอร์แลนด์
zh-min-nan:Sūi-se
Rwsia
Gwlad yn nwyrain Ewrop ac yng ngogledd Asia(Siberia) yw Ffederasiwn Rwsia (hefyd: Ffederasiwn Rwsiaidd, Российская Федерация). Mae'n gwlad ehangach y byd.
Gweler hefyd
- Kasimov
- Moskva
- Ryazan
- St Petersburg
als:Russland
ja:ロシア
ko:러시아
ms:Russia
roa-rup:Rusii
simple:Russia
th:สหพันธรัฐรัสเซีย
zh-min-nan:Lō·-se-a
DenmarcDenmarc (Daneg: Kongeriget Danmark). Teyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop yw Denmarc. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu y wlad, ag eithrio'r ffin deheuol â'r Almaen.
als:Dänemark
ja:デンマーク
ko:덴마크
ms:Denmark
simple:Denmark
zh-min-nan:Dan-kok
RomaniaGwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Romania. Mae ar lan y Môr Du a gwledydd gyfagos yw Wcráin a Moldofa yn y gogledd-ddwyrain, Hwngari a Serbia a Montenegro yn y dwyrain a Bwlgaria yn y de.
Hanes
Prif Erthygl: Hanes Romania
O dan yr Ottomaniaid, o'r 15-19c, dechreuodd y Romaniaid eu ymgyrch am annibyniaeth cenedlaethol yn ystod yr 1820au, yn dyheu at y uno o Moldofa, Wallachia ac Transylvania. Yn 1862 unodd Moldofa a Wallachia i ffurfio'r Tywysogaeth unedol o Romania, ac creuwyd brenhiniaeth yn 1866.
Pennaethau Gwladwriaeth Romania (ers yr Uniad o 1859)
Tywysogaeth Romania
Teyrnas Romania
Gweriniaeth Pobl Romania
Gweriniaeth Sosialaidd Romania (ers 1965, Aws 21)
Gweriniaeth Romania
Gwelwch hefyd: Brehinoedd Romania, Bessarabia, Moldavia, Wallachia, a Transylvania
Gwleidyddiaeth
Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth Romania
Mae Romania yn gweriniaeth democratic. Mae cangen deddffwriaethol llywodraeth Romania yn cynnwys ddau siambr, y Senat (Senedd), sydd â 137 o aelodau (2005), ac y Camera Deputaţilor (Siambr o Ddirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholwyd aelodau'r ddau siambr pob pedair mlynedd.
Etholwyd yr Arlywydd, pennaeth y cangen gweithredol, hefyd gan pleidlais poblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2005, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi prif weinidog, sy'n pennaeth y llywodraeth, mae'r aelodau o hynny yn cael eu penodi gan y prif weinidog. Mae'r llywodraeth yn caeth i pleidlais seneddol o cymeradwyaeth.
Siroedd
Rhannwyd Romania i 41 judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bucharest (Bucureşti) - y prif ddinas
Y siroedd yw (yn nhrefn yr wyddor):
Bucharest glas, ardal Moldofa coch, a Dobrogea melyn]]
Daearyddiaeth
Dobrogea
Prif Erthygl: Daeaeryddiaeth Romania
Ffurfiwyd rhan fawr o ffiniau Romania a Serbia â Bwlgaria gan y Donaw. Ymunwyd y Donaw gan yr Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifwyd y Donaw i'r Môr Du yn ffurfio y Delta Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.
Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.
Mae gan Romania tirlun eithaf dosbarthol, efo 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.
Mae'r Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Romania yn amgylchynu'r Gwastatir Uchel Transylvania, 14 copa yn cyrraed dros uchder o 2,000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu at 2,544 m. Yn y dde, mae'r mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at y Gwastadedd Bărăgan.
Y tri mynydd uchaf yn Romania yw:
Dinasoedd pennaf yw'r prif ddinas Bucharest, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi.
Gwelwch hefyd:
- Rhestr o Ddinasoedd Romania
- Afonydd Romania
- Llynoedd Romania
Dinasoedd mwyaf
Ffynhonnell: [http://www.insse.ro/rpl2002rezgen/5.pdf Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002]
Yn answyddogol, mae cymdeithasegwyr yn dweud fod yn ei 228 km², mae gan Bucharest mwy na 3.5 miliwn o bobl, yn dod o phob cornel o'r wlad.
Gwledydd y byd | Ewrop | Cyngor Ewrop
Gwelwch hefyd
- Oradea
ja:ルーマニア
ko:루마니아
ms:Romania
nb:Romania
roa-rup:România
simple:Romania
th:ประเทศโรมาเนีย
Yr ArianninMae Gweriniaeth yr Ariannin (República Argentina) yn wlad lle siaredir Sbaeneg yn ne-ddwyrain De America, rhwng yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Uruguay, Brasil, Paraguay, Bolifia a Chile. Mae'r enw Sbaeneg yn dôd o'r Lladin argentum (arian), metel gwerthfawr a annogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd.
República Argentina
|
|
Arwyddair cenedlaethol: En Unión y Libertad (Sbaeneg, "Mewn Undeb a Rhyddhad") |
| Iaith Swyddogol | Sbaeneg |
| Prif Ddinas | Buenos Aires |
| Arlywydd | Néstor Kirchner |
Maint - Cyfanswm - % dwr | 8fed mwyaf 2,766,890 km² ¹ 1.1% |
Poblogaeth
- Cyfanswm (2002)
- Dwyster | 31ain mwyaf
37,812,817
14/km² |
Annibynoliaeth
- Dyddiad | Oddiwrth Sbaen
9fed Gorffenaf, 1816 |
| Pres | Peso Arianninol |
| Ardal amser | UTC -3 |
| Anthem cendlaethol | Oid, Mortales |
| TLD Rhyngrwyd | .AR |
| Côd Galw ffôn | 54 |
(1) Mae'r Ariannin hefyd yn honni 1,000,000 km² o Antarctica, a hefyd Ynysoedd y Falklands |
Hanes
Cyrhaeddodd yr Ewropeaid y rhanbarth yn gynnar yn y 16fed canrif. Arweiniodd gwladychiad y tiroedd gan y Sbaenwyr at sefydlu trefedigaeth sefydlog ar safle Buenos Aires yn 1580. Cafwyd datganiad o annibyniaeth oddi wrth Sbaen yn 1816, ond roedd yna wrthdarro ymhlith ei gilydd rhwng y canolwyr a'r ffederalwyr tan proclamasiwn y cyfansoddiad newydd yn 1853.
Roedd ne adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifilwrol a milwrol. Ar ol yr Ail Rhyfel y Byd gwelodd codiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd 'ne juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.
Ers hynny cafwyd pedwar etholiad rhydd i bwysleisio gwelliant yr Ariannin yn cydgyfnerthiad democrataidd, ond roedd mewnfrwydrad economaidd digynsail yn 2001 a dechrau 2002.
Gwleidyddiaeth
Mae Cyfansoddiad yr Ariannin o 1853, diwygiedig yn 1994, yn gwahanu nerthau i cainciau gweithredol, deddfwriaethol, a barnwrol, ar safonnydd cenedlaethol a taleithiol. Ni all yr arlywydd a'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu mwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r Arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r Cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth yr ystad ac fel pennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy Ddyfarniad Arlywyddol pan mae ne amodau "pwysig ac anghenrheidiol".
Senedd yr Ariannin yw'r Cyngres Cenedlaethol dwy-siambr, neu Congreso Naciónal, yn cynnwys senedd (Senado) o 72 seddi a Siambr Dirpwyon (Cámara de Diputados) o 257 aelod. Ers 2001 mae pob talaith, hefyd y Prif Ddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn gael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am 1/3 y Senedd pob 2 flynedd. Mae aelod y Siambr Dirpwyon yn gael ei ethol am 4 blynedd, ac mae hanner y Siambr yn cael eu ethol pob 2 flynedd.
Taleithiau
Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol - provincia), ac 1 rhanbarth ffederal (distrito federal), sylweddoli gan - :
- Buenos Aires -
- Talaith Buenos Aires
- Catamarca
- Chaco
- Chubut (yn cynnwys Yr Wladfa).
- Córdoba
- Corrientes
- Entre Rios
- Formosa
- Jujuy
- La Pampa
- La Rioja
- Mendoza
- Misiones
- Neuquén
- Rio Negro
- Salta
- San Juan
- San Luis
- Santa Cruz
- Santa Fe
- Santiago del Estero
- Tierra del Fuego - Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd
- Tucumán
Daearyddiaeth
Mae'n posibl i rhannu'r Ariannin mewn tri darn: Y gwastadedd ffrwythlon y Pampas yn hanner gogledd y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de y wlad, i lawr i Tierra de Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin. Pwynt uchaf yr Ariannin yw Cerro Aconcagua am 6,960 m.
Mae'r prif afonydd yn cynnwys yr Paraguay, Bermejo, Colorado, Uruguay ac y mwyaf, y Parana. Mae'r ddwy olaf yn llifo gyda'n gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Rio de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn tymherus am y mwyafrif, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y dde pell.
Economi
Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol werthfawr, poblogaeth gwybodus iawn, amaeth da, a bas diwydiannol amrywiad. Yn anfoddus, ers yr hwyr 1980au roedd y gwlad wedi ffurfio dyledion mawr, roedd chwyddiant wedi cyrraedd 200% pob mis, ac roedd cynnyrch yn syrthio. I wellio'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd.
Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002.
Demograffaeth
Mae pobl yr Ariannin yn dod o llawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae ne tua 500,000 pobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Yr unrhyw iaith swyddogol yw Sbaeneg.
Cysylltiadau allanol
- [http://www.info.gov.ar/gateway.html El Portal del Estado] - Gwefan swyddogol y llywodraeth
- [http://www.presidencia.gov.ar Presidencia] - Gwefan swyddogol yr Arlywydd (mewn Sbaeneg)
- [http://www.senado.gov.ar Honorable Senado de la Nación] - Gwefan swyddogol y Senedd (mewn Sbaeneg)
- [http://www.diputados.gov.ar Honorable Cámara de Diputados de la Nación] - Gwefan swyddogol y Ty Isaf (mewn Sbaeneg)
Gwledydd y Byd | De America
Ariannin, Yr
Ariannin, Yr
Ariannin, Yr
ja:アルゼンチン
ko:아르헨티나
ms:Argentina
simple:Argentina
th:ประเทศอาร์เจนตินา
Gwlad Belg
Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Gwlad Belg (België yn yr Iseldireg, Belgique yn y Ffrangeg a Belgien yn yr Almaeneg). Mae rhwng yr Iseldiroedd, yr Almaen, Luxembourg, Ffrainc a Môr y Gogledd. Mae yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Almaenig a'r diwylliant Ffrengig ac felly mae diwylliant y wlad yn rhannu yn ddau gwahanol iawn. O ganlyniad, mae sefydliadau a hanes y wlad braidd yn gymhleth.
Gwelwch: Rhestr gwladwyr Belg enwog
ja:ベルギー
ko:벨기에
ms:Belgium
simple:Belgium
th:ประเทศเบลเยียม
zh-min-nan:Belgien
CanadaGwlad fwyaf gogledd yng Ngogledd America yw Canada. Mae'n frenhiniaeth gyfansoddiadol. Gwlad gyfagos yw'r Unol Dalaeithiau America a mae ar lannau y Môr Iwerydd a'r Môr Tawel.
Canada
|
|
| Arwyddair cenedlaethol: A Mari Usque Ad Mare (O fôr i fôr) |
| image:LocationCanada.png |
| Ieithoedd Swyddogol | Saesneg a Ffrangeg below. |
| Prif Ddinas | Ottawa, Ontario |
| Dinas Mawrach | Toronto, Ontario |
| Brenhines | Elizabeth II |
| Llywodraethwr Cyffredin | Adrienne Clarkson |
| Prif Weinidog | Paul Martin |
Maint - Cyfanswm - % dŵr | Rhenc 2 9,984,670 km² 8.62% |
Poblogaeth
- Cyfanswm (2004)
- [[Dwysedd poblogaethPhytolacca
Kermesbeeren (Phytolacca), sind eine Gattung aus der Familie Kermesbeerengewächse (Phytolaccaceae). Sie sind etwa 1 bis 20 m hoch werdende, mehrjährige krautige Pflanzen mit aufrechtem Stängel und mehrköpfiger, verdickter Wurzel und strahligen Blüten in Trauben.
Der deutsche Name stammt vom arabischen Wort "kermes" für "rot". Der Lateinische Name Phytolacca kommt zum Teil vom griechischen Wort φυτών [phyton] für Pflanze und zum anderen von dem lateinischen lacca für Lack.
Für Säugetiere aufgrund der Triterpensaponine (Phytolaccagenin) und Lectine gering giftig bis giftig. Die Konzentration der giftigen Inhaltsstoffe nimmt wie folgt ab: Wurzel, Blatt, Stamm, Frucht unreif, Frucht reif. Die Homöopathische Wirkung von Extrakten aus der Wurzel werden bei Grippe, Angina und (Gelenk-)Rheumatismus eingesetzt.
Wegen der Giftstoffe müssen nahrungsmitteltaugliche Produkte der Kermesbeeren behandelt oder entsprechend zubereitet werden. Die Beeren enthalten dunkelroten bis schwarzen Farbstoff der als Nahrungsmittelfarbe verwendet werden kann. Die Blätter haben eine elliptische Form. In Amerika werden junge Blätter der Kermesbeeren (engl. "Pokeweed") ähnlich wie Spinat zubereitet. Die Sprossen haben spargelähnlichen Geschmack.
Arten (Auswahl)
Kermesbeeren (Phytolacca) kommen überwiegend im topischen bis subtropischen Raum und in Weinbaugebieten vor. Es sind etwa 35 verschiedenen Arten bekannt (Auswahl):
- P. americana, Nordamerika
- P. icosandra, Südamerika und heteropetala in Mexiko
- P. esculenta, Süd- bzw. Mittelamerika, Ost-Asien
- P. acinosa, China
- P. clavigera, Südostasien
- P. octandra, Neuseeland.
Verwilderte Arten sind in Europa im Mittelmeergebiet zu finden.
Kategorie:Bedecktsamer
Online Casino warsaw hotels programy bielizna erotyczna zycie
|
|
|
| | |