:: wikimiki.org ::
| Luxembourg |
LuxembourgArchddugiaeth yw Lwcsembwrg (Ffrangeg: Luxembourg) yng ngorllewin Ewrop, rhwng Ffrainc, Gwlad Belg a'r Almaen. Lwcsembwrg yw enw prif ddinas y wlad, hefyd. Mae'r bobl yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Lwcsembwrgeg, ond mae tua hanner y bobl sy'n byw yn y wlad yn dod o wledydd eraill, yn enwedig Portiwgal.
ja:ルクセンブルク
ko:룩셈부르크
ms:Luxembourg
nb:Luxembourg
simple:Luxembourg
FfrangegFfrangeg (Ffrangeg: Français) yw iaith Ffrainc
Ymadroddion Cyffredin
- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va? : sut mae?
- bonjour! : bore/p'nawn da!
- bonsoir! / bon soirée! : noswaith dda!
- au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit! : nos da!
- excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch a dweud merci nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch s'il vous plaît yn hytrach na merci neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno a rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml
- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
Geiriau Diddorol
- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal (Mae digon ohonnyn nhw yn Ffrainc!)
Cysylltiadau
- [http://geiriadur.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Sylfaenol, Cymraeg - Ffrangeg, Ffrangeg - Cymraeg.]
- [http://truckspeak.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Gyrrwyr Lori, Ffrangeg - Saesneg, Saesneg - Ffrangeg.]
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Rhufeinaidd
als:Französische Sprache
ja:フランス語
ko:프랑스어
simple:French language
th:ภาษาฝรั่งเศส
zh-min-nan:Hoat-gí
Ewrop
Mae Ewrop yn gyfandir.
Am ddaearyddiaeth Ewrop gweler Daearyddiaeth Ewrop
Gwledydd Ewrop
- Albania
- Yr Almaen
- Andorra
- Awstria
- Belarus
- Gwlad Belg
- Bosna-Hercegovina
- Bwlgaria
- Cyprus
- Croatia
- Denmarc
- Y Deyrnas Unedig
- Yr Eidal
- Estonia
- Dinas y Fatican
- Ffrainc
- Y Ffindir
- Gwlad Groeg
- Gwlad yr Iâ
- Hwngari
- Yr Iseldiroedd
- Gweriniaeth Iwerddon
- Latvia
- Liechtenstein
- Lithuania
- Luxembourg
- Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia
- Malta
- Moldova
- Monaco
- Norwy
- Portiwgal
- Gwlad Pwyl
- România
- Ffederasiwn Rwsia
- San Marino
- Sbaen
- Serbia a Montenegro
- Slofacia
- Slovenija
- Sweden
- Y Swistir
- Gweriniaeth Tsiec
- Twrci
- Wcráin
Gwelwch:
- Undeb Ewropeaidd
!
als:Europa
ja:ヨーロッパ
ko:유럽
ms:Eropah
roa-rup:Evropa
simple:Europe
th:ทวีปยุโรป
zh-min-nan:Europa
Ffrainc
Gweriniaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc. Mae'n ffinio
â Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, Monaco a'r Eidal yn y dwyrain, Sbaen ac Andorra yn y de, a'r Cefnfor Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.
Mae mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, ond mae nifer o ieithoedd eraill hefyd, megis Llydaweg ac Ocitan.
Daearyddiaeth Ffrainc
Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Bethune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.
Category:Ewrop
als:Frankreich
fiu-vro:Prantsusmaa
ja:フランス
ko:프랑스
ms:Perancis
simple:France
th:ประเทศฝรั่งเศส
zh-min-nan:Hoat-kok
Gwlad Belg
Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Gwlad Belg (België yn yr Iseldireg, Belgique yn y Ffrangeg a Belgien yn yr Almaeneg). Mae rhwng yr Iseldiroedd, yr Almaen, Luxembourg, Ffrainc a Môr y Gogledd. Mae yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Almaenig a'r diwylliant Ffrengig ac felly mae diwylliant y wlad yn rhannu yn ddau gwahanol iawn. O ganlyniad, mae sefydliadau a hanes y wlad braidd yn gymhleth.
Gwelwch: Rhestr gwladwyr Belg enwog
ja:ベルギー
ko:벨기에
ms:Belgium
simple:Belgium
th:ประเทศเบลเยียม
zh-min-nan:Belgien
Prif DdinasPrif ddinas yw'r ddinas bwysicaf mewn gwlad. Caerdydd yw prif ddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithau, Washington DC yw'r brif ddinas, ac mae Llundain yn brif ddinas i Brydain a Lloegr.
Mae gan pob wlad yn yr byd brif ddinas; mae gan rai (er enghraifft, yr Iseldiroedd) mwy nag un.
ja:首都
ko:수도
simple:Capital
FfrangegFfrangeg (Ffrangeg: Français) yw iaith Ffrainc
Ymadroddion Cyffredin
- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va? : sut mae?
- bonjour! : bore/p'nawn da!
- bonsoir! / bon soirée! : noswaith dda!
- au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit! : nos da!
- excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch a dweud merci nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch s'il vous plaît yn hytrach na merci neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno a rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml
- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
Geiriau Diddorol
- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal (Mae digon ohonnyn nhw yn Ffrainc!)
Cysylltiadau
- [http://geiriadur.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Sylfaenol, Cymraeg - Ffrangeg, Ffrangeg - Cymraeg.]
- [http://truckspeak.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Gyrrwyr Lori, Ffrangeg - Saesneg, Saesneg - Ffrangeg.]
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Rhufeinaidd
als:Französische Sprache
ja:フランス語
ko:프랑스어
simple:French language
th:ภาษาฝรั่งเศส
zh-min-nan:Hoat-gí
PortiwgalGweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw Portiwgal. Mae rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd a fod yr ynysoedd Azores a Madeira yn ran o'r wlad.
ja:ポルトガル
ko:포르투갈
ms:Portugal
simple:Portugal
zh-min-nan:Portugal
Iaith SwyddogolIaith Swyddogol yw iaith sy'n cael ei defnyddio trwy ddeddf gwlad mewn dogfennau swyddogol. Ieithoedd swyddogol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.
ja:公用語
ko:공용어
nb:Offisielt språk
simple:Official language
zh-min-nan:Koaⁿ-hong gí-giân
FfrangegFfrangeg (Ffrangeg: Français) yw iaith Ffrainc
Ymadroddion Cyffredin
- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va? : sut mae?
- bonjour! : bore/p'nawn da!
- bonsoir! / bon soirée! : noswaith dda!
- au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit! : nos da!
- excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch a dweud merci nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch s'il vous plaît yn hytrach na merci neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno a rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml
- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
Geiriau Diddorol
- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal (Mae digon ohonnyn nhw yn Ffrainc!)
Cysylltiadau
- [http://geiriadur.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Sylfaenol, Cymraeg - Ffrangeg, Ffrangeg - Cymraeg.]
- [http://truckspeak.monsite.wanadoo.fr Geiriadur Gyrrwyr Lori, Ffrangeg - Saesneg, Saesneg - Ffrangeg.]
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Rhufeinaidd
als:Französische Sprache
ja:フランス語
ko:프랑스어
simple:French language
th:ภาษาฝรั่งเศส
zh-min-nan:Hoat-gí
AlmaenegMae Almaeneg (Uchel Almaeneg ac Isel Almaeneg) yn perthyn i’r gangen germanig-orllewinol o’r ieithoedd Indo-ewropeaidd. Fe berthyn i'r un teulu ieithyddol germanig â Saesneg, Iseldireg a Norwyeg.
Mae Uchel Almaeneg yn un o ieithoedd pwysicaf y byd a llenyddiaeth helaeth yn perthyn iddi. Almaeneg sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr brodorol o holl ieithoedd Ewrop (tua 100 miliwn yn 2004 neu 13.3% y boblogaeth).
Hanes
Yn ystod yr Oesoedd Canol (neu yr Oesau Canol, y Canol Oesoedd) cynnar fe ddigwyddodd symudiad sain ('sound shift') mewn rhai tafodieithoedd germanig a elwir yn ail symudiad sain neu yn symudiad sain yr Uchel Almaeneg Gynnar. Gelwir y tafodieithoedd hyn, sef Alemannisch, Bairisch, Ostfränkisch, Rheinfränkisch, Mittelfränkisch, ac Ostmitteldeutsch, yn dafodieithoedd hochdeutsch, sef Uchel Almaeneg neu Almaeneg Safonol. Ar y llaw arall, fe gyfrifir bod y tafodieithoedd na ddigwyddodd yr ail symudiad sain iddynt (neu lle na ddigwyddodd ond i raddau cyfyngedig iawn) yn perthyn i deulu’r Isalmaeneg, o’r cyfnod modern cynnar ymlaen.
Yr adeg honno yr ymddangosodd y gair Teutsch (Deutsch mewn Almaeneg modern) yn y Lladin, wedi ei seilio ar y gair germanig am 'bobl' sef thioda, thiodisk. Golygai iaith y bobl nad oeddynt yn siarad Lladin na iaith Romáwns. Bu i’r gair hŷn Fränkisch am eu hiaith eu hunain araf ddiflannu tua’r 9fed ganrif yn sgil y newidiadau canlynol. Ar y naill law bu i’r bobl Westfränkisch a reolai diroedd y gorllewin (a fyddai yn ddiweddarach yn Ffrainc) fabwysiadu iaith Romáwns y brodorion. Ar y llaw arall roedd pobl y tiroedd dwyreiniol, yr Ostfrankenreich, yn cynnwys llwythau eraill heblaw am y Fränkisch, megis yr Alemmannen, y Bayern, y Thüringer, a’r Sachsen.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd cyfundrefnau politicaidd tiroedd y Teutschen (y llwythau Almaenig) yn ddrylliog, pob llwyth yn mynd ei ffordd ei hun, yn wahanol i’r gwledydd cyfagos, lle y canolwyd grym gwleidyddol ynghynt (ni ffurfiwyd yr ymerodraeth Almaenig hyd 1871). Gwahanwyd y bobloedd hefyd gan fynyddoedd uchel a fforestydd trwchus. Oherwydd hyn datblygodd tafodieithoedd Almaenig am gyfnod hir ar wahân i’w gilydd gan achosi gwahaniaethau sylweddol rhwng y tafodieithoedd. Honnir y gellir gweld y cam cyntaf tuag at gysoni’r tafodieithoedd rhanbarthol yn iaith farddol beirdd yr uchelwyr adeg yr Uwch Almaeneg Ganol, tua 1200. Yn wir fe welir yn eu cerddi eu bod i ryw raddau yn osgoi defnyddio geirfa nad oedd yn gyfarwydd ymhobman na defnyddio ynganiad arbennig i un ardal, a hynny er mwyn sicrhau y byddai’r cerddi yn ddealladwy ledled y llwythau Almeinig. Eto i gyd rhaid barnu mai bach iawn oedd dylanwad y beirdd hyn a weithient yn y llys, ar adeg pan nad oedd prin neb yn llythrennog nac â’r cyfle i ymwneud â diwylliant y llys. Gellir dirnad dechreuadau Uchel Almaeneg Gyfoes ysgrifenedig a safonol yn well yn y broses o gysoni iaith rhwng y rhanbarthau a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau’r Cyfnod Modern.
Yn wahanol i’r mwyfrif o wledydd Ewrop, lle mae’r iaith safonol yn seiliedig ar dafodiaith y brifddinas, mae Almaeneg safonol yn deillio o ryw fath o gyfaddawd rhwng y tafodieithoedd Canol ac Uwch Almaeneg sy’n perthyn i’r tiroedd i’r de o’r llinell Benrather. Rhed y llinell hon yn fras trwy drefi Düsseldorf, Kassel, Magdeburg, a Berlin.
Dros gyfnod, yn enwedig yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, fe ymdreiddiodd Uchel Almaeneg drwy ogledd yr Almaen hefyd, fel iaith ysgolion a materion swyddogol, ar draul y tafodieithoedd Isel Almaeneg (neu Isalmaeneg), sef Plattdeutsch, Niedersächsisch, a Niederfränkisch. Ond cyn hynny, yn ystod y cyfnod pan oedd y Cynghrair Hanseatig ar ei anterth (yn ystod y 14eg a’r 15fed ganrif) defnyddid Isel Almaeneg fel iaith gyffredin (neu lingua franca) o amgylch moroedd y Gogledd a’r Baltig. Mae Iseldireg hithau yn dafodiaith o’r Isel Almaeneg.
Cyfieithodd Martin Luther y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534 i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Oherwydd pwysigrwydd crefyddol Luther a’i Feibl fe ymdreiddiodd yr iaith a ddefnyddiodd, oedd a blas Ostmitteldeutsch (Canol Almaeneg Dwyreiniol) iddi, drwy genedlaethau lawer. O edrych yn ôl, fe welwn fod cyfraniad Luther i ddatblygiad iaith ysgrifenedig safonol wedi cael ei orbwysleisio am hir amser. Ers y 14eg ganrif bu eisoes ddatblygiad graddol a lledaeniad yn y defnydd o iaith ysgrifenedig wedi ei safoni rhwng y rhanbarthau, a elwid yn Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Cynnar). Roedd Beibl Luther felly yn adeiladu ar seiliau a osodwyd gan lenorion cynharach. Pan gyhoeddwyd y Beibl gyntaf cafodd rhestr o eiriau ei hatodi oedd yn trosi geiriau anghyfarwydd i eiriau’r dafodiaith leol, pob ardal a’i rhestr ei hun. Parhawyd i ddatblygu iaith safonol ac erbyn yr 17eg ganrif yr oedd datblygiad iaith ysgrifenedig safonol yn gyflawn.
Yn lle mabwysiadu teip rhufeinig tueddai’r Almaen i lynu wrth deip llythyren-ddu, yn arbennig yr amrywiadau Almaenig schwabacher a fraktur arni, ac erbyn y ddeunawfed ganrif daethpwyd i ystyried llythyren ddu, a ddefnyddiwyd gan Luther a Dürer, fel symbol o’r hunaniaeth Almaenig. Ar y dechrau fe gefnogodd y Natsïaid lythyren ddu yn hytrach na rhufeinig, a ddefnyddiwyd i gryn raddau hefyd (yn arbennig ar gyfer llyfrau â chylchrediad rhyngwladol megis gweithiau gwyddonol; rhufeinig a ddefnyddid ar deipiaduron), ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda golwg ar draarglwyddiaethu’r byd fe wnaethon nhw wahardd llythyren ddu gan ddisgrifio schwabacher yn gwbl gyfeiliornus fel teip Iddewig. Erbyn heddiw dim ond yn achlysurol i gyfleu naws hynafol, er enghraifft mewn hysbysebion, y defnyddir llythyren ddu, sy’n dal i fod â chynodiadau Natsïaidd.
Cafwyd ymgyrch aflwyddiannus ar ddechrau’r 20fed ganrif i beidio â pharhau i ddysgu plant ysgol i sgrifennu’r llaw gothig redegog kurrentschrift a oedd yn arbennig i’r Almaen ac i ddysgu dim ond y rhufeinig a oedd hefyd yn cael ei ddysgu ond fe ordeiniwyd hynny gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe rennir hanes Almaeneg yn aml yn bedair rhan:
- 750-1050: Althochdeutsch (Uchel Almaeneg Gynnar)
- 1050-1350: Mittelhochdeutsch (Uchel Almaeneg Ganol)
- 1350-1650: Frühneuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes Gynnar)
- Ers 1650: Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes)
Cyhoeddodd Johann Christoph Adelung y geiriadur Almaeneg swmpus cyntaf ym 1781. Dechreuodd Jacob a Wilhelm Grimm y gwaith o gyhoeddi geiriadur cynhwysfawr ym 1852, gwaith nas cwblhawyd hyd 1961. Mae’r gwaith o ddiwygio’r geiriadur hwn yn mynd rhagddo.
Fe safonwyd fwyfwy ar orgraff yr Almaeneg yn ystod y 19ed ganrif. Cafwyd cam ymlaen tuag at safoni Almaeneg ysgrifenedig ym 1880 pan gyhoeddwyd Orthographischen Wörterbuch der deutschen Sprache (Geiriadur Almaeneg Orgraffyddol) gan Konrad Duden. Diwygiwyd rhyw ychydig ar hwn erbyn 1901, pan gyhoeddwyd canllawiau Almaeneg ysgrifenedig ar gyfer sefydliadau cyhoeddus. Dim ond ym 1996 y diwygiwyd orgraff yr Almaeneg unwaith eto.
Mae diwygiad sillafu 1996 yn bwnc llosg. Mae’r sillafiad diwygiedig wedi ei ddysgu mewn ysgolion ers 1996 ond heb ei dderbyn gan bawb eto, e.e. rhai papurau newydd. Mae’r newidiadau eisioes wedi eu derbyn a’u gweithredu yn ymarferol mewn llawer gwlad Almaeneg ei hiaith. Ers 1 Awst 2005 rhaid i bawb yn yr Almaen ddefnyddio’r sillafiad diwygiedig heblaw am ddwy ardal nad ydynt wedi derbyn y sillafiad diwygiedig.
Ehangodd y defnydd o Uchel Almaeneg gyda thwf yr Ymerodraeth Habsbwrg. Hi oedd iaith y canolfannau gweinyddol a masnachol ar draws y tiroedd Habsbwrg hyd at ganol y 19eg ganrif, e.e. ym Mhrâg a Bwdapest, ond nid pob tref Habsbwrg a siaradai Almaeneg, e.e. arhosodd Milan yn Eidaleg ei hiaith.
Defnydd Almaeneg fel iaith swyddogol
Yn yr Almaen mae Uchel Almaeneg yn:
- iaith y weinyddiaeth wladol yn unol â Deddf Gweithrediad Gweinyddiaeth (Verwaltungsverfahrensgesetz).
- iaith dogfennau notarïol yn unol â Deddf Ardystio (Beurkundungsgesetz).
- iaith y llys yn unol â Deddf Cyfansoddiad y Llysoedd (Gerichtverfassungsgesetz).
Mae rheolau arbennig ar gyfer y lleiafrifoedd sy’n siarad Daneg yn Schleswig-Holstein a’r Sorbeg yn Brandenburg a Sachsen, ac ar gyfer siaradwyr Niederdeutsch yn rhanbarthau gogleddol yr Almaen.
Yn Awstria Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad. Mae Croateg a Slofeneg hefyd yn ieithoedd swyddogol yn y rhanbarthau lle mae’r lleiafrifoedd hynny’n byw.
Almaeneg yw un o 20 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac un o ieithoedd gwaith y Cenhedloedd Unedig.
Gwledydd lle y siaredir Almaeneg
Yn brif iaith swyddogol
- Yr Almaen
- Awstria
- Liechtenstein (a’r unig iaith swyddogol)
Yn iaith swyddogol ymhlith ieithoedd eraill
- Rhanbarth Alsace yn Ffrainc
- ardal De Tirol yn yr Eidal (iaith frodorol i 2/3)
- Gwlad Belg
- rhanbarth Galicia yn yr Wcráin
- Lwcsembwrg
- Y Swistir (iaith frodorol i 2/3 o’r bobl)
- Namibia hyd y flwyddyn 1990
- Rwsia yn ardaloedd y lleiafrifoedd Almaeneg, yn Asowo (ardal Omsk) a Halbstadt (rhanbarth Altai)
- rhanbarth Schleswig yn Nenmarc
- rhanbarth Siebenburgen yn Romania
Ffugdybiad yw hi bod Almaeneg ymron â chael lle iaith swyddogol yn UDA.
Yn iaith leiafrifol
- Yr Ariannin (300,000)
- Awstralia (200,000 neu ragor o blith y 2,000,000 o dras Almaenig)
- Gwlad Belg (112,458) (150,000 – 1988 – Hawkins yn B. Comrie)
- Brasil (1,900,000)
- Canada (500,000 neu ragor o blith y 2,800,000 o dras Almaenig)
- Chile (100,000)
- Croatia (11,000)
- Denmarc (20,000)
- Yr Eidal (225,000 – 1987 – Vincent yn B. Comrie)
- Estonia (3,460)
- Ffrainc: o blith y 1,200,000 o drigolion Alsace a Lorraine dim ond canran fechan sydd yn dal i siarad y dafodiaith Almaeneg frodorol.
- Hwngari (145,000) (250,000 – 1988 – Hawkins yn B. Comrie)
- Yr Iseldiroedd (47,775)
- Kazakhstan (358,000)
- Latfia (3,780)
- Lithuania (2,060)
- Lwcsembwrg (10,900 – 2001 – Johnstone a Mandryk)
- Moldovia (7,300)
- Namibia (30,000)
- Paraguay (200,000)
- Gwlad Pwyl (50,000-120,000)
- Romania (70,000) (45,129 – cyfrifiad 2002)
- Rwsia : y rhan Ewropeaidd (75.000), Siberia (767,300)
- Slofacia (12,000) (15,000 – 1998)
- Togo
- Y Weriniaeth Tsiec (50,000 - 1998) yn yr Erzgebirge
- UDA, yn enwedig Pennsylvania (6,100,000)
- Wcráin (38,000)
Yn ail iaith
Mae llawer dros y byd yn dysgu Almaeneg fel ail iaith. Yn Ewrop Almaeneg sydd wedi lledaenu fwyaf ac eithrio’r Saesneg. Honna 38% o ddinasyddion Ewrop (heblaw am siaradwyr Almaeneg fel mamiaith) eu bod yn gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg. Ceir niferoedd sylweddol o ddysgwyr Almaeneg yn yr Iseldiroedd, Sgandinafia, o amgylch y môr Baltig, Slofenia, Croatia, Gwlad Pwyl, Japan, Bosna-Hercegovina, ardaloedd rwmanaidd y Swistir, Serbia, Hwngari, Montenegro, Macedonia a Bwlgaria. Yn rhai o’r gwledydd hyn Almaeneg yw’r iaith dramor gyntaf a ddysgir yn yr ysgolion, o flaen Saesneg. Yn Belarus hefyd dysgir Almaeneg yn aml mewn ysgolion. Mewn rhannau o ddwyrain Ewrop hybir dysgu Almaeneg gan ei bod yn bosibl derbyn telediad Almaeneg trwy gebl neu oddi ar loeren. Mewn gwledydd eraill, e.e. Ffrainc ac UDA, mae Almaeneg yn colli tir i’r Sbaeneg.
Yn ôl ymholiad y Ständigen Arbeitsgruppe Deutsch als Fremdsprache (Pwyllgor Gwaith Almaeneg fel Ail Iaith) sydd yn perthyn i Swyddfa Dramor yr Almaen a Sefydliad Goethe, ymhlith cyrff eraill, roedd y niferoedd mwyaf o ddysgwyr Almaeneg yn 2000 i’w cael yn y gwledydd canlynol:
- Ffrainc : 1,603,813
- Hwngari : 629,472
- Yr Iseldiroedd : 591,190
- Kazakhstan : 629,874
- Gwlad Pwyl : 2,202,708
- Y Ffederasiwn Rwsiaidd : 4,657,500
- Y Weriniaeth Tsiec : 799,071
- UDA : 551,274
- Yr Wcráin : 629,742
Erbyn heddiw Almaeneg yw’r iaith a ddefnyddir amlaf ar y rhyngrwyd ac eithrio’r Saesneg. Mae rhagor nag 8% o dudalennau’r rhyngrwyd yn Almaeneg.
Fel creoliaith
Yn sgil gwladychu y datblygodd yr iaith ‘Unserdeutsch’ yn yr ynysoedd a elwir heddiw yn Brydain Newydd Dwyreiniol. Erbyn hyn mae’r iaith hon ymron â diflannu gan fod mwyafrif y siaradwyr wedi mudo oddi yno. Heblaw hyn mae rhyw 150 o eiriau Almaeneg eu tarddiad i’w cael yn iaith Tok Pisin Papwa Gini Newydd.
Geiriau
| Rhowch imi | | Geben Sie mir |
| gwrw | ein Bier |
| os gwelwch yn dda | bitte |
| ac | und |
| yn gyflym! | schnell! |
Yr Wyddor Almaeneg
Mae'r Wyddor Almaeneg yn cynnwys 26 llythyren.
Aa, Bb, Cc, Dd, Ee, Ff, Gf, Hh, Ii, Jj, Kk, Ll, Mm, Nn, Oo, Pp, Qq, Rr, Ss, Tt, Uu, Vv, Ww, Xx, Yy, Zz
Yn ogystal â’r 26 llythyren yn yr wyddor Lladin mae Almaeneg yn defnyddio ß (eszett) a llythrennau ag ‘umlaut’ arnynt Ää, Öö, Üü.
Iaith lafar a thafodieithoedd Almaeneg
Nid oes ynganiad Almaeneg safonol cyffelyb i ynganiad Saesneg y BBC. Yn ystod y 19eg ganrif bu ehangu mawr ar addysg a hynny trwy gyfrwng Uchel Almaeneg. Wrth geisio ynganu geiriau Uchel Almaeneg fe ffurfiwyd iaith lafar tra gwahanol yn y gwahanol ranbarthau, yn gymysgedd o Uchel Almaeneg a thafodiaith wreiddiol yr ardal.
Ers canol yr 20fed ganrif mae’r gwahanol ieithoedd llafar hyn wedi ymdreiddio i’r tafodieithoedd traddodiadol. Fe fydd siaradwyr yn addasu eu hiaith i fod yn fwy neu yn llai tafodieithol yn ôl y galw. Ar y teledu a’r radio fe glywch y cyflwynwyr gan amlaf yn siarad Uchel Almaeneg ond gydag acen ranbarthol. Ond nid acen yw’r unig wahaniaeth rhwng yr ieithoedd llafar gan fod geirfa a chystrawen hefyd yn gwahaniaethu o un ardal i’r llall, yn enwedig rhwng gwlad a gwlad trwy fod pob gwlad a’i diwylliant a’i gweinyddiaeth ei hun yn bathu termau newydd gwahanol i’w gilydd. Erbyn hyn ceir rhai dinasoedd yn yr Almaen ac Awstria lle mae’r dafodiaith draddodiadol wedi diflannu’n gyfan gwbl. Fe erys digon o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd a siaredir heddiw trwy’r tiroedd Almaenig fel bod angen is-deitlau Uchel Almaeneg ar rai ffilmiau tafodieithol o’r gwahanol ranbarthau. Mater o raid yw defnyddio Uchel Almaeneg pan fydd rhywrai sy’n hanu o ranbarthau pellenig am gael sgwrs. Mae Almaeneg y Swistir yn annodd iawn i’w deall gan Almaenwyr ac felly hefyd y tafodieithoedd Isel Almaeneg.
Fe fu ymdrechion i ffurfio iaith lafar safonol yn seiliedig ar Uchel Almaeneg tua diwedd y 19eg ganrif i’w defnyddio yn y theatr yn bennaf. Cyhoeddwyd canllawiau ‘Ynganiad Almaeneg ar gyfer y llwyfan’ ym 1898. Yr oedd ynganiad y geiriau yn gyfaddawd rhwng ynganiad y gwahanol ranbarthau ond yn ymdebygu fwyaf i ynganiad Gogledd yr Almaen. Gan fod pobl gogledd yr Almaen yn siarad tafodieithoedd Isel Almaeneg a oedd mor wahanol i Uchel Almaeneg, pan aethant ati i ddysgu Uchel Almaeneg yna ei dysgu ymron fel ail iaith yr oeddent. Dyfeisiasant ynganiad yn ôl y llythrennau ysgrifenedig yn hytrach na dilyn patrwm eu tafodiaith eu hunain.
Bu beirniadu ar ‘iaith y llwyfan’ fod ei sain yn annaturiol, ac aflwyddiannus fu’r ymdrech i ehangu’r defnydd o’r iaith hon tu allan i’r theatr. Ond pan aethpwyd ati i ysgrifennu canllawiau ynganu ar gyfer dysgwyr dilynwyd yr un trywydd â ‘iaith y llwyfan’ trwy gyfaddawdu rhwng y gwahanol ranbarthau ond gyda dylanwad cryf o iaith y Gogledd. Gelwir hon yn Ynganiad Safonol er nad yw’n perthyn yn union gywir i neb o blith Almaenwyr.
Fe rennir y tafodieithoedd traddodiadol yn dair prif ran, sef Uwch Almaeneg (tua’r de), Almaeneg Canol (y deilliodd Uchel Almaeneg yn bennaf ohono) ac Isel Almaeneg (tua’r gogledd). Fesul cam y gwelir newidiadau wrth symud o un ardal i ardal gyfagos, gan gynnwys yr ymdoddiad ieithyddol o diroedd Almaeneg Canol i diroedd Isel Almaeneg. Y mae’n bwnc llosg a ddylid ystyried Isel Almaeneg, sy’n cynnwys Iseldireg a Fflemeg, yn iaith ar wahan i Uchel Almaeneg. Mae rhanbarthau Hambwrg, Schleswig-Holstein, Niedersachsen, Mecklenburg-Vorpommern a Bremen wedi cael cydnabyddiaeth gan Gyngor Ewrop fod yr iaith ‘Niederdeutsch’ (sef y tafodieithoedd Nieder Sächsisch) yn iaith rhanbarthol swyddogol. Fodd bynnag, y mae’n bosib mai marw fydd tynged y Niederdeutsch, serch yr ymdrechion politicaidd i’w harbed.
Yn hanesyddol mae pobl ardaloedd tafodieithol cyfagos yr Isel Almaeneg, o ogledd yr Almaen draw at wlad Belg a’r Iseldiroedd yn deall ei gilydd. Yn ôl y diffiniad ieithyddiaeth felly maent yn perthyn i’r un teulu iaith. Ond mae’r tafodieithoedd yn yr Iseldiroedd a’r Almaen yn tyfu fwyfwy ar wahan trwy fod ffin boliticaidd rhyngddynt. Hefyd mae llawer o’r tafodieithoedd Isel Almaeneg yn colli tir i Iseldireg neu Almaeneg safonol, a rhai ohonynt bron â marw. Trwy’r broses hon gellir gweld ffin ieithyddol yn ymddangos rhwng Iseldireg ac Almaeneg.
Dylanwadau ieithoedd tramor ar Almaeneg
Gan fod siaradwyr Almaeneg yn byw yng Nghanolbarth Ewrop y mae Almaeneg wedi dylanwadu arni drwy’r canrifoedd gan ieithoedd eraill. Yn ystod yr Oesoedd Canol ac ynghynt cafwyd benthyg geiriau o’r Lladin yn bennaf. Benthycwyd geiriau o’r Lladin yn ymwneud â phensaernïaeth, crefydd, a rhyfela, ymhlith pynciau eraill, e.e. Fenster (ffenestr), Keller (seler), Karren (cert), dominieren (goruchafu), Kloster (mynachlog). Cafwyd benthyg hefyd o’r Groeg ym meysydd crefydd, gwyddoniaeth, ac athroniaeth, e.e. Philiosphie (athroniaeth), Physik (Ffiseg), Demokratie (democratiaeth).
Yn ddiweddarach Ffrangeg oedd yr iaith fwyaf dylanwadol ar Almaeneg. Ffrangeg a siaredid mewn llawer i lys wedi’r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a ddaeth i ben ym 1648. Mae’n debyg bod gafael gwell gan Dywysogion Prwsia ar Ffrangeg nag ar Almaeneg. Gan hynny codwyd geirfa helaeth yn ymwneud â byd y boneddigion o’r Ffrangeg, e.e. Boulevard (rhodfa), Trottoir (palmant), Konfitüre (jam).
Benthycwyd i raddau llai o’r ieithoedd Slafaidd, e.e. Grenze (ffin), Pistole (llawddryll), o’r Iddew-Almaeneg a Rotwelsch, e.e. meschugge (yn wirion bost).
Gwelir dylanwad Arabeg ym meysydd masnach, botaneg, a meddygaeth, dylanwad oedd ar ei anterth yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys adeg y croesgadau, e.e. Koffer (cist), Benzin (petrol), Limonade (lemonêd).
Ers canol yr 20fed ganrif mae Saesneg wedi dylanwadu fwyfwy ar Almaeneg. Mae’r datblygiad hwn yn ddadleuol. Achwynir bod llawer o’r geiriau benthyg ffug-Saesneg, e.e. Handy (ffôn symudol) yn disodli geiriau cyfystyr Almaeneg sy’n bodoli eisioes neu y gellid fod wedi bathu geiriau â gwreiddiau Almaeneg. Erbyn hyn mae ffilmiau wedi eu trosleisio’n wael o’r Saesneg hefyd yn dylanwadu ar Almaeneg. Er mwyn cadw cydwefusiad ar ffilmiau Saesneg (ac oherwydd anwybodusrwydd) fe greir geiriau ac ymadroddion nad ydynt yn gyfarwydd yn Almaeneg ond sydd ar fyr dro yn ymgartrefu yn yr iaith lafar, e.e. Oh mein Gott am ‘Oh my God’ Saesneg, yn hytrach na’r ymadrodd draddodiadol Um Gottes Willen. Fe elwir yr iaith sydd yn gymysgedd o Almaeneg a Saesneg yn Denglish.
Mewn llawer gwlad, e.e. Ffrainc a Gwlad yr Iâ, ceir ymdrechion politicaidd i arbed yr iaith frodorol rhag ymdreiddiad o’r Saesneg. Nid felly y mae yn yr Almaen am fod cymaint o ofn unrhyw bolisïau sy’n ymdebygu i bolisïau’r Natsïaid arnynt. Mae eraill yn collfarnu ymdrechion o’r fath gan eu cyfrif yn buryddiaeth ieithyddol afiach.
Dylanwad Almaeneg ar ieithoedd eraill
Mae llawer o eiriau wedi eu benthyg o’r Almaeneg i ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg. Tardda trwch y geiriau benthyg o ddyfeisiadau Almaenig, o adeg y rhyfeloedd byd, neu o’r ymfudwyr i UDA a siaradent Almaeneg neu Iddew-Almaeneg. Enghreifftiau o’r geiriau benthyg yma yw:
- Abseilen
- Angst
- Blitzkrieg
- Eisberg (rhewfryn)
- Doppelgänger (rhywun o’r un ffunud ac un arall)
- Glockenspiel
- Glitz
- jodeln (iodlo)
- kaputt (wedi torri)
- Kindergarten
- Kitsch
- Müsli
- Rucksack
- Schadenfreude (ymhyfrydu yn nhrafferthion rhywrai arall)
- Vorsprung durch Technik (cam ymlaen trwy dechnoleg)
- Waltz
- Wunderkind (plentyn rhyfeddol)
- Zigzag (igam ogam)
- Zeppelin
Diwylliant Almaeneg
Llenyddiaeth Almaeneg
Mae’r Almaeneg ysgrifenedig gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 8fed ganrif, ar ffurf llawysgrifau eglwysig a nodiadau ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin. Yng nghanol y 12fed ganrif fe ledodd cwmpas llenyddiaith Almaeneg tu allan i’r byd eglwysig. Aethpwyd ati i ysgrifennu llawer o ganeuon a chwedlau o dan nawdd yr uchelwyr. Gwelir dylanwad Ffrengig ar lenyddiaeth yr Almaen yn dechrau’r adeg hon, dylanwad a fyddai’n parhau am ganrifoedd. Enghreifftiau o’r canu hwn yw Rolandslied (cân Roland), Tristan und Isold (Tristan ac Esyllt), Parzival (Parsifal), Niebelungenlied.
Fel ag yn Gymraeg bu cyhoeddi’r Beibl yn Almaeneg, ym 1522 a 1534, yn garreg filltir bwysig yn natblygiad yr iaith safonol yn ogystal ag yn natblygiad yr Eglwys Gristnogol.
Mae llenyddiaeth helaeth wedi ei chyhoeddi yn Almaeneg ar hyd yr oesoedd. Ymhlith y mwyaf enwog y mae:
- Dramau a cherddi Friedrich Schiller 1759 – 1805
- Gweithiau Goethe gan gynnwys y ddrama drasiedi Faust ym 1808 a 1832.
- Rhyddiaith Franz Kafka 1883 – 1924
- Dramau Bertolt Brecht 1898 – 1956
- Nofel Die Blechtrommel (Y drwm tun) gan Günter Grass (ganwyd 1927).
Bu’r Holocawst yn ysgogiad i lenyddiaeth a ffilmiau. Gellir enwi gwaith y beirdd Iddewig Paul Celan, yn arbennig ei gerdd enwog Todesfuge, a Nelly Sachs yn y cyswllt hwn. Datblygiad diweddar yw trafod dyddiau olaf y Trydydd Reich o safbwynt Hitler a’i staff yn y ffilm Der Untergang, ac yn y gyfres deledu Heimat dylunnir bywyd bob-dydd yn ystod yr 20fed ganrif wrth i’r Almaenwyr geisio dod i delerau â’u hanes.
Almaeneg mewn miwsig
Ar draws Ewrop, yn sgil y Diwygiad Protestanaidd, dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth grefyddol gan ddefnyddio testunau yn yr iaith leol yn hytrach na Lladin, e.e. gweithiau J.S. Bach ar ddechrau’r 18fed ganrif. Yn ddiweddarach dechrewyd cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ar bynciau seciwlar. Pan gyfansoddodd Mozart Die Zauberflöte (y Ffliwt Hud) ym 1791, Eidaleg oedd cyfrwng arferol operâu. Bwriad Mozart wrth ddefnyddio testun Almaeneg oedd apelio at werin Fienna yn ogystal â’r byddigion, gan fod yr opera yn ymdrin ag Urdd y Seiri Rhyddion, yr oedd Mozart yn aelod ohoni. Yn ystod y 19eg ganrif defnyddiwyd y chwedlau Almaeneg o’r Oesoedd Canol mewn operâu, gan gynnwys operâu Wagner. Bu cyfansoddwyr Almaeneg yn arloeswyr canu clasurol y 19eg ganrif a elwir heddiw yn ganu ‘Lieder’ (sef 'caneuon' yn Almaeneg). Yn eu plith roedd Franz Schubert, Robert Schumann, a Johannes Brahms.
Dysg Almaeneg
Tyfodd bri a dylanwad prifysgolion y gwledydd Almaeneg eu hiaith yn gyflym yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn y 1870au roedd Almaeneg wedi disodli Lladin fel prif iaith addysg prifysgolion Ewrop. Câi Almaeneg ei defnyddio mewn meddygaeth yn nwyrain Asia yn hytrach na Lladin. Ym meysydd ieithyddiaeth, athroniaeth, hanes, a gwyddoniaeth, ymhlith eraill, yr oedd siaradwyr Almaeneg a phrifysgolion Almaenig ar flaen y gad academaidd. O’r herwydd ymddangosodd nifer fawr o weithiau pwysig y byd yn Almaeneg gan gynnwys:
- Das Kapital (Cyfalaf) gan Karl Marx (1867)
- Die Traumdeutung (Dehongli breuddwydion) gan S. Freud (1899)
- Drei Abhandlungen zur Sexualtheorie (3 Thraethawd ar elfennau rhywioldeb) gan S. Freud (1904-05)
- Das Unbehagen in der Kultur (Anniddigrwydd mewn gwareiddiad) gan S. Freud (1929)
- Zur Elektrodynamik bewegter Körper (Ar electrodeinameg cyrff symudol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik cyf. 17, 1905
- Ist die Trägheit eines Körpers von seinem Energieinhalt abhängig? (Ydy inertia corff yn dibynnu ar yr ynni sydd ynddo?) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf. 18, 1905)
- Die Grundlage der allgemeine Relativitätstheorie (Sylfaen y theori perthynoledd cyffredinol) gan A. Einstein yn Annalen der Physik (cyf 49, 1916)
- Über die spezielle und allgemeinen Relativitätstheorie (Ynglŷn â theori perthynoledd arbennig a chyffredinol) gan A. Einstein (1916).
Ffilm Almaeneg
Ymddangosodd y ffilm hir sain Almaeneg gyntaf ym 1929, sef Melodie der Welt (Cân y byd). Ymddangosodd ffilmiau sain Almaeneg byd-enwog yn ystod y cyfnod sain cynnar, gan gynnwys ffilm gyntaf Marlene Dietrich Der Blaue Engel (Yr angel glas – 1930), Berlin Alexanderplatz (1931), ac M (1931). Pan ddaeth y Natsïaid i rym, buan y collwyd gwneuthurwyr ffilm mwyaf dawnus yr Almaen. Cynhyrchwyd nifer fawr o ffilmiau Almaeneg yn ystod cyfnod y Natsïaid, gan fod y sinema yn hynod boblogaidd yn yr Almaen, serch neu yn hytrach oherwydd tlodi enbyd y bobl, ond prin yw’r ffilmiau y bernir eu bod yn bwysig erbyn heddiw. Wedi’r Ail Ryfel Byd cafwyd rhywfaint o adfywiad mewn ffilmiau Almaeneg eu hiaith, ond nid tan y 60au y cafodd sinema Almaeneg sylw rhyngwladol eto. Yn ystod y 70au y gwelwyd ffilmiau y Neues Deutsches Kino (y Sinema Almaenig Newydd) yn cael sylw a chlod beirniadol, yn eu plith Aguirre, der Zorn Gotte (Aguirre, digofaint Duw - 1972), Angst essen Seele auf (Ofn a lynca’r enaid – 1974) a Die Ehe der Maria Braun (Priodas Maria Braun – 1979). Yn ddiweddar iawn mae nifer o ffilmiau wedi ymddangos yn trin cyfnod y Natsïaid gan gynnwys Das Schreckliches Mädchen (Y ferch ddychrynllyd - 1989), Der Untergang (Y dymchwel - 2004), a Sophie Scholl – die Letzten Tage (Sophie Scholl – y dyddiau olaf - 2005).
Yr enw Almaeneg mewn ieithoedd eraill
Oherwydd bod hanes y pobloedd sy’n siarad Almaeneg wedi bod mor gythryblus mae llawer rhagor o wahanol ffurfiau ar y gair ‘Almaeneg’ mewn ieithoedd tramor nag sydd i’r mwyafrif o ieithoedd y byd.
Yn gyffredinol gellir dosbarthu’r gwahanol dermau am Almaeneg yn ôl eu tarddiad i chwech grŵp sef:
#O’r term protogermanaidd Volk (pobl)
#O enw llwyth y Germaniaid
#O enw llwyth y Sacsoniaid
#O’r gair Slafaidd am ‘fud’
#O enw llwyth yr Alemaniaid
#Yn ieithoedd y Baltig
Cyfeirnodion
Ffynonellau
- http://de.wikipedia.org/wiki/Deutsche_Sprache
- http://en.wikipedia.org/wiki/German_language
Ysgriflythrennau a llawysgrifen
- Black letter: type and national identity, goln Peter Bain a Paul Shaw (New York, 1998)
- S. H. Steinberg, Five hundred years of printing, (Harmondsworth, 1966, 1996)
- D. B. Updike, Printing types: their history, form and use (Oxford University Press, 1952)
Ystadegau siaradwyr
- http://de.wikipedia.org/wiki/Deutsche_Sprache
- http://www.ethnologue.com/show_language.asp?code=deu
Ar bapur
- Geiriadur Almaeneg-Cymraeg a Chymraeg-Almaeneg (Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1999).
Ar y we
- http://www.woerterbuch.info/ geiriadur Almaeneg-Saesneg ar y we.
- http://www.uni-wuerzburg.de/germanistik/spr/suf/baydat-udi/pdf/Grob%FCbersicht%20Dialekte.pdf (map o’r tafodieithoedd Almaeneg, yn Almaeneg)
Category:Ieithoedd
Category:Ieithoedd Almaenaidd
als:Deutsche Sprache
ja:ドイツ語
ko:독일어
ms:Bahasa Jerman
simple:German language
th:ภาษาเยอรมัน
Prif DdinasPrif ddinas yw'r ddinas bwysicaf mewn gwlad. Caerdydd yw prif ddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithau, Washington DC yw'r brif ddinas, ac mae Llundain yn brif ddinas i Brydain a Lloegr.
Mae gan pob wlad yn yr byd brif ddinas; mae gan rai (er enghraifft, yr Iseldiroedd) mwy nag un.
ja:首都
ko:수도
simple:Capital
Rhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethRhestr gwledydd yn ôl poblogaeth ydy hon. Mae'r ffigyrau yn dod o'r CIA World Factbook 2002 -- dydy nhw ddim bob amser yn gyfoes, ond mae nhw'n weddol agos.
Gweler hefyd: Rhestr gwledydd, Rhestr gwledydd yn ôl cyfandir
| Lle | Gwlad | Poblogaeth |
| 1 | Gweriniaeth Poblogol Tseina Priftir Tseina Hong Kong Macau Cyfanswm | 1,284,303,705 7,210,505 453,733 1,291,967,943 |
| 2 | India | 1,045,845,226 |
| 3 | Unol Daleithiau Samoa America Guam Ynysoedd Gogleddol y Marianas Puerto Rico Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau Cyfanswm | 278,058,881 67,084 157,557 74,612 3,937,316 122,211 282,417,661 |
| 4 | Indonesia | 231,328,092 |
| 5 | Brasil | 176,029,560 |
| 6 | Pacistan | 147,663,429 |
| 7 | Rwsia | 144,978,573 |
| 8 | Bangladesh | 133,376,684 |
| 9 | Nigeria | 129,934,911 |
| 10 | Siapan | 126,974,628 |
| 11 | Mecsico | 103,400,165 |
| 12 | Philippines | 84,525,639 |
| 13 | Yr Almaen | 83,251,851 |
| 14 | Fietnam | 81,098,416 |
| 15 | Yr Aifft | 70,712,345 |
| 16 | Ethiopia | 67,673,031 |
| 17 | Twrci | 67,308,928 |
| 18 | Iran | 66,622,704 |
| 19 | Gwlad y Thai | 62,354,402 |
| 20 | Y Deyrnas Unedig Anguilla Ynysoedd Virgin Prydeinig Bermuda Ynysoedd Cayman Ynysoedd y Falklands Gibraltar Guernsey Ynys Manaw Jersey Montserrat Ynys Pitcairn Saint Helena Ynys Turks a Caicos Cyfanswm | 59,778,002 12,132 20,812 63,503 35,527 2,826 27,649 64,342 73,489 89,361 7,574 47 7,266 18,122 60,070,440 |
| 21 | Ffrainc Giana Ffrangeg Polynesia Ffrangeg Guadeloupe Martinique Mayotte Caledonia Newydd Reunion Saint Pierre a Miquelon Wallis a Futuna Cyfanswm | 59,765,983 177,562 253,506 431,170 418,454 163,366 204,863 732,570 6,928 15,435 61,955,081 |
| 22 | Yr Eidal | 57,715,625 |
| 23 | Gweriniaeth Gwerinol y Congo | 55,225,478 |
| 24 | Wcráin | 48,396,470 |
| 25 | De Corea | 48,324,000 |
| 26 | De Affrica | 43,647,658 |
| 27 | Myanmar | 42,238,224 |
| 28 | Colombia | 41,008,227 |
| 29 | Sbaen | 40,077,100 |
| 30 | Pwyl | 38,625,478 |
| 31 | Yr Ariannin | 37,812,817 |
| 32 | Tansania | 37,187,939 |
| 33 | Y Swdan | 37,090,298 |
| 34 | Algeria | 32,277,942 |
| 35 | Canada | 31,902,268 |
| 36 | Morocco Sahara Gorllewinol Cyfanswm | 31,167,783 250,559 31,418,342 |
| 37 | Cenya | 31,138,735 |
| 38 | Perw | 27,949,639 |
| 39 | Affganistan | 27,755,775 |
| 40 | Nepal | 25,873,917 |
| 41 | Usbecistan | 25,563,441 |
| 42 | Uganda | 24,699,073 |
| 43 | Venezuela | 24,287,670 |
| 44 | Irac | 24,001,816 |
| 45 | Sawdi-Arabia | 23,513,330 |
| 46 | Malaysia | 22,662,365 |
| 47 | Taiwan, Gweriniaeth Tseina | 22,548,009 |
| 48 | Gogledd Corea | 22,224,195 |
| 49 | Romania | 21,698,181 |
| 50 | Ghana | 20,244,154 |
| 51 | Sri Lanka | 19,607,519 |
| 52 | Mosambic | 19,576,783 |
| 53 | Awstralia Ynys y Nadolig Ynysoedd Cocos Ynys Norfolk Cyfanswm | 19,546,792 2,771 633 1,879 19,552,075 |
| 54 | Yemen | 18,701,257 |
| 55 | Syria | 17,155,814 |
| 56 | Côte d'Ivoire | 16,804,784 |
| 57 | Casacstan | 16,741,519 |
| 58 | Madagascar | 16,473,477 |
| 59 | Yr Iseldiroedd Aruba Antiles yr Iseldiroedd Cyfanswm | 15,981,472 70,007 212,226 16,263,705 |
| 60 | Camerwn | 15,803,220 |
| 61 | Chile | 15,328,467 |
| 62 | Ecuador | 13,183,978 |
| 63 | Guatemala | 12,974,361 |
| 64 | Cambodia | 12,491,501 |
| 65 | Burkina Faso | 12,272,289 |
| 66 | Simbabwe | 11,365,366 |
| 67 | Cuba | 11,184,023 |
| 68 | Mali | 11,008,518 |
| 70 | Groeg | 10,623,835 |
| 71 | Serbia a Montenegro | 10,600,000
| | 71 | Malawi | 10,548,250 |
| 72 | Angola | 10,366,031 |
| 73 | Niger | 10,355,156 |
| 74 | Belarws | 10,350,194 |
| 75 | Senegal | 10,284,929 |
| 76 | Gweriniaeth y Tsieciaid | 10,264,212 |
| 77 | Gwlad Belg | 10,258,762 |
| 78 | Hungari | 10,106,017 |
| 79 | Portiwgal | 10,066,253 |
| 80 | Sambia | 9,770,199 |
| 81 | Tunisia | 9,705,102 |
| 82 | Sweden | 8,876,744 |
| 83 | Tsiad | 8,707,078 |
| 84 | Gweriniaeth Dominicaidd | 8,581,477 |
| 85 | Bolifia | 8,300,463 |
| 86 | Awstria | 8,150,835 |
| 87 | Azerbaijan | 7,771,092 |
| 88 | Bwlgaria | 7,707,495 |
| 89 | Guinea | 7,613,870 |
| 90 | Somalia | 7,488,773 |
| 91 | Rwanda | 7,312,756 |
| 92 | Y Swistir | 7,283,274 |
| 93 | Haiti | 6,964,549 |
| 94 | Benin | 6,590,782 |
| 95 | Tajikistan | 6,578,681 |
| 96 | Honduras | 6,406,052 |
| 97 | El Salvador | 6,237,662 |
| 98 | Bwrwndi | 6,223,897 |
| 99 | Israel Llain Gaza Glan Orllewinol Cyfanswm | 5,938,093 1,178,119 2,090,713 9,206,925 |
| 100 | Paraguay | 5,734,139 |
| 101 | Laos | 5,635,967 |
| 102 | Sierra Leone | 5,426,618 |
| 103 | Slofacia | 5,414,937 |
| 104 | Denmarc Y Lasynys Ynysoedd Faroe Cyfanswm | 5,368,854 56,352 45,661 5,454,828 |
| 105 | Libia | 5,240,599 |
| 106 | Y Ffindir | 5,211,311 |
| 107 | Iorddonen | 5,153,378 |
| 108 | Togo | 5,153,088 |
| 109 | Papua Guinea Newydd | 5,049,055 |
| 110 | Georgia | 4,989,285 |
| 111 | Nicaragua | 4,918,393 |
| 112 | Kyrgyzstan | 4,753,003 |
| 113 | Turkmenistan | 4,603,244 |
| 114 | Norwy | 4,525,116 |
| 115 | Singapore | 4,452,732 |
| 116 | Moldofa | 4,431,570 |
| 117 | Croatia | 4,334,142 |
| 118 | Eritrea | 4,298,269 |
| 119 | Bosnia a Herzegovina | 3,922,205 |
| 120 | Seland Newydd Ynysoedd Cook Tokelau Cyfanswm | 3,864,129 20,611 1,445 3,886,185 |
| 121 | Iwerddon | 3,840,838 |
| 122 | Costa Rica | 3,773,057 |
| 123 | Lebanus | 3,627,774 |
| 124 | Llethaw | 3,610,535 |
| 125 | Gweriniaeth Canol Affrica | 3,576,884 |
| 126 | Albania | 3,510,484 |
| 127 | Uruguay | 3,360,105 |
| 128 | Armenia | 3,336,100 |
| 129 | Liberia | 3,225,837 |
| 130 | Gweriniaeth y Congo | 2,894,336 |
| 131 | Panama | 2,845,647 |
| 132 | Mauritania | 2,747,312 |
| 133 | Jamaica | 2,665,636 |
| 134 | Mongolia | 2,654,999 |
| 135 | Oman | 2,622,198 |
| 136 | Emiriaethau Arabaidd Unedig | 2,407,460 |
| 137 | Latfia | 2,385,231 |
| 138 | Lesotho | 2,177,062 |
| 139 | Bhutan | 2,049,412 |
| 140 | Gwerinaeth Macedonia | 2,046,209 |
| 141 | Kuwait | 2,041,961 |
| 142 | Slofenia | 1,930,132 |
| 143 | Namibia | 1,797,677 |
| 144 | Botswana | 1,586,119 |
| 145 | Estonia | 1,415,681 |
| 146 | Y Gambia | 1,411,205 |
| 147 | Guinea-Bissau | 1,315,822 |
| 148 | Gabon | 1,221,175 |
| 149 | Mauritius | 1,189,825 |
| 150 | Trinidad a Tobago | 1,169,682 |
| 151 | Swasiland | 1,104,343 |
| 152 | Fiji | 844,330 |
| 153 | Dwyrain Timor | 800,000 |
| 154 | Qatar | 769,152 |
| 155 | Cyprus | 762,887 |
| 156 | Guyana | 697,181 |
| 157 | Bahrain | 645,361 |
| 158 | Comoros | 596,202 |
| 159 | Equatorial Guinea | 486,060 |
| 160 | Ynysoedd y Solomons | 480,442 |
| 161 | Djibouti | 460,700 |
| 162 | Lwcsembwrg | 442,972 |
| 163 | Suriname | 433,998 |
| 164 | Cape Verde | 405,163 |
| 165 | Malta | 394,583 |
| 166 | Brunei | 343,653 |
| 167 | Maldives | 310,764 |
| 168 | Y Bahamas | 297,852 |
| 169 | Gwlad yr Iâ | 279,384 |
| 170 | Barbados | 275,330 |
| 171 | Belize | 256,062 |
| 172 | Vanuatu | 192,910 |
| 173 | Samoa | 179,058 |
| 174 | Sao Tome a Principe | 165,034 |
| 175 | Saint Lucia | 158,178 |
| 176 | Taleithiau Ffederal Micronesia | 134,597 |
| 177 | Saint Vincent a'r Grenadines | 115,942 |
| 178 | Tonga | 104,227 |
| 179 | Kiribati | 94,149 |
| 180 | Grenada | 89,227 |
| 181 | Seychelles | 80,098 |
| 182 | Ynysoedd Marshall | 70,822 |
| 183 | Dominica | 70,786 |
| 184 | Andorra | 67,627 |
| 185 | Antigua a Barbuda | 66,970 |
| 186 | Saint Kitts a Nevis | 38,756 |
| 187 | Liechtenstein | 32,528 |
| 188 | Monaco | 31,842 |
| 189 | San Marino | 27,336 |
| 190 | Palau | 19,092 |
| 191 | Nauru | 12,088 |
| 192 | Tuvalu | 10,991 |
| 193 | Niue | 2,124 |
| 194 | Dinas y Fatican | 890 |
ja:国の人口順リスト
11 Mai
11 Mai yw'r 131fed ddydiad y flwyddyn yng Nghalendr Gregoriaidd (132fed mewn blynyddoedd naid). Mae 234 dyddiau yn weddill.
Digwyddiadau
-
Genedigaethau
- 1888 - Irving Berlin, cyfansoddwr († 1989)
- 1904 - Salvador Dali, arlunydd († 1989)
- 1911 - Phil Silvers, comedïwr († 1985)
- 1950 - Jeremy Paxman
- 1964 - John Parrott, chwaraewr snwcer
Marwolaethau
- 1778 - William Pitt, 1af Iarll Chatham, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1812 - Spencer Perceval, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1981 - Bob Marley, cerddor
- 2001 - Douglas Adams, awdur
Gwyliau a Cadwraethau
-
----
Gwelwch hefyd:
10 Mai - 12 Mai - 11 Ebrill - 11 Mehefin -- rhestr holl dyddiau
Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin,
Gorffennaf, Awst, Medi, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
ja:5月11日
ko:5월 11일
simple:May 11
th:11 พฤษภาคม
ArianArian yw:
- arian (elfen), metel gwerthfawr
- arian (economeg), cyfrwng cyfnewidfa
- rhan o enw'r Ariannin
Ewro
Arian swyddogol mewn 12 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill yw'r Ewro (€ neu EUR). MaeBanc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen yn rheoli'r Ewro (Gweler isod a hefyd Ardal Ewro).
Mae'r Ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynnedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn Ewro. Cyflwynwyd ceiniogau a phapurau Ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr Ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un Ewro mewn i gant cent.
Y cyfnod trawsnewidiol
Mae Cytundeb Maastricht yn cadarnhau cyflwyniad yr Ewro a'r amodau sy'n orfodol eu cyflawni gan wledydd sydd eisiau defnyddio'r Ewro. Ar 13 Rhagfyr, 1996 roedd gweinidogion cyllid gwledydd yr UE yn arwyddo'r Cytundeb Sefydlogrwydd a Thyfiant. Ar 31 Rhagfyr, 1998) penderfynwyd ar gyfradd cyfnewydd pob arian cenedlaethol.
Ers 1 Ionawr, 1999 gellir trosglwyddo arian a gwneud pob math o daliadau mewn Ewro (yn Gwlad Groeg ers 1 Ionawr, 2001). Roedd hi'n bosib cael cyfrif banc mewn Ewro ers 1999 hefyd, ond doedd dim rhaid gwneud hynny. Beth bynnag, roedd trethi awdurdodau cyhoeddus a rhan-ddaliadau y farchnad stoc dim ond mewn Ewro.
Cyflwynwyd y ceiniogau a phapurau Ewro ar 1 Ionawr, 2002 ac yn ystod y cyfnod (hyd at Chwefror, 2002 yn mwyafrif o wledydd) roedd hi'n bosib defnyddio'r arian sengl a'r arian cenedlaethol ar yr un pryd. Heddiw, dydy'r arian cenedlaethol yr ardaloedd yr Ewro ddim yn arian cyfnewid.
Beth bynnag, gellir newid darnau a phapurau arian cenedlaethol mewn banc mewn rhai gwledydd, ond mae'r rheolau am hynny yn wahânol ym mhob gwlad.
Ardaloedd Ewro
Mae'r Ewro yn arian swyddogol yn y gwledydd a ganlyn (i daliadau dim arian/darnau a phapur Ewro):
- Yr Almaen (1999/2002)
- Awstria (1999/2002)
- Gwlad Belg (1999/2002)
- Y Ffindir (1999/2002)
- Ffrainc (1999/2002)
- Gwlad Groeg (2001/2002)
- Yr Iseldiroedd (1999/2002)
- Iwerddon (1999/2002)
- Yr Eidal (1999/2002)
- Lwcsembwrg (1999/2002)
- Portiwgal (1999/2002)
- Sbaen (1999/2002)
Mae nifer o wledydd gan undeb ariannol gan wledydd sy'n aelod yr Undeb Ariannol Ewropeaidd a felly mae'r Ewro yn arian swyddogol yn y rheini nawr hefyd:
- Monaco
- San Marino
- Dinas y Fatican
A mae nifer o wledydd sy'n bwriadu defnyddio'r Ewro heb penderfynyad yr Undeb Ewropeaidd:
- Andora yw'n bwriadu cyflwyno darnau Ewro ei hyn, ond cafwyd ddim canatád yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn.
- Kosofo
- Montenegro
Beth bynnag mae nifer o aelod-gwladwriaethau'r UE wedi penderfynu peidio cyflwyno'r Ewro ac yn cadw eu harian eu hynain:
- Denmarc
- Sweden roedd yn gwrthod ailwaith ymuno â'r Undeb Ariannol Ewropeaidd ar 14 Medi, 2003
- Y Deyrnas Unedig
Mae rhaid fod yr aelod-gwladwriaethau wedi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai, 2004 yn cyflawni nifer o amodau cyn i medru cyflwyno'r Ewro. Er enghraifft mae raid fod yn aelod yr Undeb Ariannol ac yn cael cyfradd cyfnewid cyson rhwng yr Ewro a'u arian cenedlaethol am dwy flwydden. O ganlyniad mae'n debyg fod y wledydd ddim yn defnyddio'r Ewro yn fwy gynt na 2007. Yr wledydd newydd ymuno â'r UE yw:
- Cyprus
- Estonia
- Hwngari
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Gwlad Pwyl
- Slofacia
- Slofenia
- Y Weriniaeth Tsiec
Canlyniadau economegol
Disgwylir fod yr Ewro yn cryfhau'r masnach rhwng yr Ardaloedd Ewro a fod wahaniaeth prisoedd pob wlad yn lleihau achos fod hi'n bosib gwerthu cynhyrchion ledled Ewrop ar brisiau tryloywog. Disgwylir hefyd fod hynny'n gryfhau cystadleuaeth, yn lleihau chwyddiant ac yn cynnydd llewyrch trigolion yr UE. Beth bynnag, roedd nifer o arbennigwyr yn bryderus am cyflwyno arian sengl mewn ardal eang a mor amrwyiaethol ac yn rhybuddio fydd y polisi ariannol yn anodd i'w gwneud.
Bydd pethau yn newyd yn ddramatig pe taw'r pris olew mewn Ewro. Mae'r Ardaloedd Ewro yn mewnforio mwy olew na'r Unol Daleithiau a felly mae mwy o Ewro nag o ddoleri yn llifo (? flow) i'r wledydd OPEC er fod prisiau olew mewn doler fel arfer. Mae'r wledydd OPEC yn dadlau os gyflwyno prisiau Ewro yr olew.
Cyfradd Cyfnewid
Cadarnhauwyd cyfradd cyfnewid yr arian cenedlaethol i'r Ewro mewn gwledydd yr Ewro-floc ar 31 Rhagfyr, 1998 ar sylfaen y cyfradd cyfnewid ECU.
Un Ewro yw yn:
- 1,95583 Deutsche Mark yn Yr Almaen
- 13,7603 Schilling yn Awstria
- 40,3399 Franc yn Gwlad Belg
- 1936,27 Lira yn Yr Eidal
- 5,94573 Markka yn Y Ffindir
- 6,55957 Franc yn Ffrainc
- 340,750 Drachme yn Gwlad Groeg
- 40,3399 Franc yn Lwcsembwrg
- 2,20371 Guilder yn Yr Iseldiroedd
- 0,787564 Punt yn Iwerddon
- 200,482 Escudo yn Portiwgal
- 166,386 Peseta yn Sbaen
Symbol
Cynllunwyd y symbol € gan Arthur Eisenmenger. Mae'n E mawr a chron gyda dwy llinell cyfochrog yn y canol. Mae'n debig i'r llythren Roegaidd 'Espilon' (ε) a'r llythren cyntaf y gair 'Ewrop'. Mae'r dwy linell canolog yn cynrycholi sfydlogrwydd yr arian a'r economeg.
Category:Yr Undeb Ewropeaidd
ja:ユーロ
ko:유로
ms:Euro
simple:Euro
th:ยูโร
zh-min-nan:Euro
Anthem cenedlaethol#AIL-CYFEIRIO Anthem_genedlaethol Etienne-Louis Malus
Etienne-Louis Malus (July 23, 1775 – February 24, 1812) was a French officer, engineer, physicist, and mathematician.
Malus was born in Paris, France. He participated in Napoleon's expedition into Egypt, 1798 to 1801. Malus became a member of the Académie des Sciences in 1810.
His mathematical work was almost entirely concerned with the study of light. He studied geometric systems called ray systems, closely connected to Julius Plücker's line geometry. He conducted experiments to verify Christiaan Huygens' theories of light and rewrote the theory in analytical form. His discovery of the polarisation of light by reflection was published in 1809 and his theory of double refraction of light in crystals, in 1810.
Malus attempted to indentify the relationship between the polarising angle of reflection that he had discovered, and the refractive index of the reflecting material. While he deduced the correct relation for water, he was unable to do so for glasses due to the low quality of materials available to him (most glasses at that time showing a variation in refractive index between the surface and the interior of the glass). It was not until 1815 that Sir David Brewster was able to experiment with higher quality glasses and correctly formulate what is known as Brewster's law.
Malus is probably best remembered for Malus' law, giving the resultant intensity, I, when a polarizer is placed in an incident beam of intensity I0:
:
where θ is the angle between the polarisation direction of the incident beam and the axis of the polariser.
Malus, Etienne-Louis
Malus, Etienne-Louis
Malus, Etienne-Louis
Malus, Etienne-Louis
Malus, Etienne-Louis
Doda i Virgin gastronomia opisy gg thrifty car rental Casino
|
|
|
|